Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhes

rhes

Yna o dipyn i beth fe werthwyd amball dþ rhes, a'r pris o fewn cyrraedd teuluoedd yr oedd eu henwau'n llai cyfarwydd o dipyn.

Roeddem yn edrych fel rhes o bysgotwyr o gylch pwll tro ond fod y wialen yn ein ceg.

Nid oes dim o'i le mewn hau chwarter rhes o bys ac yna'r ail chwarter, y trydydd chwarter a'r chwarter olaf, gydag ysbeidiau rhwng bob heuad, os yw'r rhes yn hir.

Rhyw dai digon simsan oedd yn ein rhes ni.

Byddem yn eistedd mewn rhes ar y soffa fel diffinyddion mewn llys.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Maen nhw'n llyfrau braf i'w perchen ac mae rhes ohonyn nhw ar silff lyfrau'r plant.

Ac felly, cyn i'r domen ddod i'r beudy, gwell ei symud hi, ferfâd wrth ferfâd yn rhes o dociau i'r caeau.

Yn lle hynny, daeth rhes o fechgyn i'r cae, a phob un yn cario hambwrdd yn llawn o bethe gwyrdd tywyll, a thu mewn cochlyd, yn llawn hade duon.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Gwelodd fflŷd o geir o'i flaen a'r gyrwyr yn rhythu fel rhes o wenciod.

Pan gyrhaeddodd y milwyr o boptu'r trên ymffurfiasant yn un rhes yn wynebu Bryn Road (lle'r oedd llawer o fenywod a phlant ymhlith y dyrfa), a dwy res gyferbyn â gerddi High Street.

Chwaraeir y gêm gynta mewn rhês o gemau pwysig yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Sul.

Byw allan o fag fydde'r chwaraewyr ac, fel sipsiwn, 'newid aelwyd bob yn eilddydd'; a hynny heb sôn am y rhes o dderbyniade a chyfarfodydd swyddogol y bydde'n rhaid mynd iddyn nhw ac, wrth gwrs, y gême y bydde'n rhaid eu chware.

Yr hen ferfa fawr fyddai'n cario'r llwythi trymion i wneud y tocia mwyaf ym mhen y rhes bob tro.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Meddyliwch am yrru o Fachynlleth i Ddolgellau, a rhes o garafanau yn ymlusgo o'n blaenau, yn cadw'n glos at ei gilydd heb adael lle i neb basio.

Edrychent yn drefnus iawn, yn union fel milwyr mewn rhes.

Llyfrau o'r tŷ oedd yno, yn un rhes, rywsut-rywsut.

Daethpwyd o hyd i babell bifoac Eidalaidd o rywle a chaniatawyd iddo ei chodi ar ben y rhes, ond heb fod yn rhy agos at y babell nesaf.

Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.

Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.

Hanes plant ar bob planed ydi hynna, yntê?' chwarddodd gan ddangos rhes o ddannedd mân, miniog.

Safem ninnau'n un rhes wedi dysgu ein carolau ac yn barod i'w canu pan ddeuai.

A ma' 'i hannar o wedi colli i fy sgidia' i.' 'Hidiwch befo, mi ges i lond pisar o beth berwedig yn y ty pen, yn y rhes tai sy tu ôl i'r bus 'ma.' 'Tewch, welis i mo'r rheini,' meddai Ifan, yn teimlo'i hun wedi cael cawell.

paul wilkinson yw'r un i gadw llygaid arno yn y rhes flaen.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Ar y llwyfan, fe gafwyd rhes o areithiau sychion a datganiadau cerddorol yn llawn gallu technegol ond yn brin o angerdd.

Wedi iddi gyflwyno'r cadeirydd ym mhen cyntaf y rhes, dyma ddod at ei frawd, Tomi Jones.

Esboniodd un wraig tŷ wrthyf ei bod hi'n hen gyfarwydd ag aros mewn rhes am bedair awr bob dydd.

Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

Mi ddadleuan nhw eu hachos yn hir ac yn faith tra bo pawb arall yn disgwyl mewn rhes hir tu ôl iddyn nhw.

Yn wynt ac yn goch i gyd ymddangosodd rhes o redwyr chwyslyd a oedd yn amlwg wedi bod yn ymlid râs hir iawn.

Dyma'r tro cyntaf iddo fo fod yn nhþ gwerinwr go iawn, tþ rhes lle gaech chi glywed symudiadau pobol drws nesa.

Roedd rhes o risiau'n arwain i'r llofft yn un pen i'r ystafell, fel yn yr hen ddyddiau.

Dônt i'm meddwl yn rhes ddiddiwedd.

Er mai'r Brenin, ar un olwg, yw'r darn pwysicaf ar y bwrdd - fel darn i ymosod ac amddiffyn mae'n ddiwerth bron, a thra bo'n sefyll rhwng y ddau Gastell yn y rhes gefn, nid yw'n ddim ond rhwystr ichi ddefnyddio eich Cestyll yn effeithiol.

Ar ôl sefyll mewn rhes am oriau i sicrhau fod eu plant yn cael un pryd maethlon y dydd, roedd hi'n gwbwl amhosib' i'r mamau gyrraedd yr ail ganolfan fwydo mewn pryd i gael eu bwyd eu hunain.

Hynny a'r neges o gyfarch ar bapur tŷ bach 'wrth y bachan iaith Gymrâg 'cw yn y rhes gyferbyn ...

Ar gyrion y trefi mae'r halting sites, rhes o garafannau a chartrefi ar olwynion yn bentref unnos, a phethau fel dwr, tai bach a man golchi wrth law.

Ni ddylai mwy na dwy garafan fod mewn rhes, ac os digwydd i chi ymuno a chriw o ddwy neu ragor, dylech aros.

Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.

Yr oedd un ferfâd o dail yn gwneud tocyn cyfan, a'r cwbwl fyddai eisiau ei wneud ar ôl cyrraedd y cae efo'r llwyth fyddai cerdded pedwar ne bum cam a gofalu cadw'r rhes yn union, wedyn lympio'r ferfa a gadael un tocyn arall at y cyfanswm, ag ôl sgwar gwaelod y ferfa ar ei ben.

Roedd wedi anghofio'n llwyr mai yno ar orchymyn yr oeddynt a bod rhes o filwyr arfog y tu ôl iddyn nhw.

Gosodid y rhain yn rhes ar wal ystafell goffi staff y faelfa, a galw am sawl sylw - rhai'n garedig a rhai'n bigog.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.

Tua chanllath oddi yno bu'n rhaid i'n bws stopio am fod rhes o geir yn sownd yn y mwd ar y ffordd.