Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhestr

rhestr

Synnwyr cyffredin yw llawer o'r sylwadau wrth gwrs ond y mae'n ddefnyddiol cael yr holl orchwylion ynglyn â threfnu digwyddiad o'r fath yn rhestr daclus.

Gweler atodiad) Ar gyfer pob un o'r pedair ffram yn y model, y mae rhestr gyffredinol yn dilyn o brojectau ymchwil y dylid rhoi ystyriaeth fanwl iddynt.

Ymddangosai'n debyg na fyddai Rod Richards, arweinydd y Ceidwadwyr, yn cael ei big i mewn gan fod ei gwestiynau ymhell i lawr y rhestr a'r gweithgareddau'n mynd rhagddynt yn hamddenol.

Yn hysbyseb cyntaf y coleg, gosodwyd y Gymraeg ar ben rhestr y pynciau a ddysgid yno ac yr oedd Athro Cymraeg ymhlith y tri aelod cychwynnol o'r staff academaidd.

Ceisiodd Carol lunio rhestr neges yn ei phen fel y gallai ei throsglwyddo i Emyr dros y ffôn.

Drwy gyfrwng y colofnau hyn, bu Dewi Mai yn weithgar iawn yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda sawl sylw dadleugar, trwy drefnu nifer o gystadlaethau, ac ambell waith trwy fentro cyhoeddi rhestr y gwyddai'n iawn a fyddai'n debyg o dynnu nyth cacwn i'w ben.

Os ydych chi'n gwerthu anfonwch eich cyfeiriad i'w gynnwys ar ein rhestr.

Wrth ystyried mai rhestr o 'unigolion' hollol ar hap oedd i gychwyn, ac mai'r unig dasg gyfrifo angenrheidiol oedd mesur y pellter rhwng gwahanol bentrefi, mae'r algorithm genetig wedi medru esblygu, ac yn ei sgil, hunan-ddysgu y daith orau heb unrhyw ymyriad o gwbl.

Trechodd Isabella Rossellini a Joanna Lumley rai fel y syrffedus hollbresennol Liz Hurley an merch ninnau o'r Mwmbwls, Catherine Zeta Jones, i fod yn gyntaf ac yn ail ar y rhestr.

Rhestr gynhwysfawr o gerrig hynafol wedi eu llythrennu, gyda 55 o ffotograffau.

'Dewch i ni glywed unwaith eto y rhestr trosedde,' gorchmynnodd Martha Arabela.

Gorffennodd y Cymro Phil Price yn wythfed yn rhestr y detholion - ei berfformiad gorau erioed.

Anelu tua'r de-ddwyrain dros gefnen greigiog Blaen Rhestr i'r hen ffordd las a throi i'r chwith heibio Carn Ricet i gyrraedd yn ôl i'r car.

Dewiswch Homepage o'r rhestr o gategorïau.

Ar ôl ystyried yr ymateb i hysbyseb yn y wasg gofynnodd y pwyllgor penodi i Harri Gwyrln a fuasai'n barod i adael iddynt ychwanegu ei enw at y rhestr o ymgeiswyr am y swydd.

'Aderyn ...' clywais hwy'n sibrwd, '...aderyn brith, aderyn corff, aderyn pêl, aderyn y ddrycin, aderyn yr eira ...' Yr oedd y rhestr yn ddiddiwedd.

Mae sibrydion fod John Hollins, rheolwr tîm llwyddiannus Abertawe ar y rhestr fer am swydd rheolwr Leicester City.

Dewiswch icon WWW o'r rhestr o gategorïau.

I fod yn bersonol, pan euthum i Fangor i'r Coleg am y tro cyntaf, fy awydd mawr oedd astudio athroniaeth ond yn anffodus - erbyn hyn - deuthum ar ben y rhestr mewn Cymraeg yng nghwmni Idris Foster a Jarman a pherswadiwyd fi i 'gymryd' Cymraeg.

Cyfle i ymuno a rhestr lythyru.

Er nad ein cyfrifoldeb ni oedd hyn,bu inni anfon rhestr o'r mudiadau gwirfoddol hynny ddylai gael pleidleisio yn yr etholiad yma i sylw'r Swyddfa Gymreig.

Gwelwyd o brofiad fod ffeiliau bwa-lifer neu ffeiliau clo-crwn gyda rhestr gynnwys a rhaniadau wedi eu labelu yn ffordd dda o gadw'r gwaith mewn trefn.

Fel ymarfer darllen ar ôl hynny, rhoir rhestr o wyrthiau'r Beibl a chwestiynau ac atebion o'r Beibl, 'Disgrifiad Byr o Bedwar Chwarter y Flwyddyn', ac wedyn chwedlau dychmygol.

Pleidleisiwch hefyd am eich hoff gân o'r rhestr uchod.

Mewn gwirionedd nid yw catalog ond yn gofnod o leoliad ac amser y sioe ynghyd a rhestr o'r anifeiliaid a gymerodd ran a'u perchnogion.

Dyma nhw'n dod at ddiwedd y rhestr ac, ar ôl troi'r tudalen, at y rhestr o eiriau yn dechrau â 'B'.

Swydd Rhestr Fer Penodiad

Netscape Navigator 2+ Ar y brif ddewislen, cliciwch Options ac yna dewiswch General Preferences Dewiswch Navigator o'r rhestr o gategorïau.

Rhestr siopa sydd yma mewn gwirionedd, rhestr o ymatebion pobol i'r ymgyrch losgi.

Rhoi rhestr hir o gyfarwyddiadau i Wali a'r bechgyn gan obeithio fy mod wedi dewis wythnos weddol ddidramgwydd ar y ffarm.

Yna canlyn Cerrig Llwyd y Rhestr, rhyw gramen o graig sy'n brigo i'r wyneb am ryw filltir, i Lyn Carw.

Ef, un flwyddyn, oedd ar ben y rhestr enillwyr yr Arholiad Ysgrythurol drwy'r sir.

Lledaeniad y Pincod Mae gan ddwsin o'r Pincod gysylltiad â Chymru (gweler y rhestr).

Ar y llaw arall mae rhai ohonynt mor brin fel ei bod yn anodd cyfiawnhau eu cynnwys ar y rhestr.

Elvis, gyda llaw, oedd ar ben y rhestr gyda Muhammad Ali yn ail a Noel Gallagher yn drydydd.

Fel y gellid disgwyl, gan fod Mrs Parry wedi cyfeilio i gynifer ohonynt, 'roedd ei rhestr o unawdwyr yn bur faith - Joan Hammond, Isabel Baillie, Ruth Packer, Tudor Davies, Heddle Nash, Norman Allen, Bruce Dargarvel, David Lloyd.

Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.

Arno roedd y rhestr llyfrau.

Roedd bathodyn Lithuania'n lliwgar-ffres ar ddillad swyddogion y maes awyr - yn ôl y drefn flaenoriaethau draddodiadol mewn sefyllfaoedd o'r fath, roedd iwnifforms ar ben y rhestr.

Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o lyfrau y mae y gweisg yn eu paratoi ar gyfer Mawrth elenii.

I bwrpas crynhoi rhestr o anghenion ymchwil, penderfynwyd mabwysiadu'r fframwaith a ganlyn, sy'n dangos y gofynion o fewn un o bedair ffram gyd-berthnasol.

Cododd amheuaeth hefyd ynghylch rhestr yr Historica Brittonum o frwydrau Arthur.

Y mae eu henwau yn odli â'i gilydd - Basas, Dulas, Baddon, Celyddon, ac ymlaen - ac awgryna hynny eu bod yn tarddu o gerdd Gymraeg gynnar yn cynnwys rhestr o frwydrau enwog.

Mae'n rhaid iddo gael rhestr, neu raglen, o gyfarwyddiadau manwl cyn y gall wneud dim.

Yn wir, y mae rhestr meddygon y cylch wedi bod yn un dra urddasol, yn eu plith Dr Rowlands a'i fwstas deubig, Dr Black, Dr Kyle a Dr Prydderch.

Mae yna rhestr e-bost, bwrdd negeseuon a gwybodaeth cyffredinol am y band.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Netscape Navigator 4+ Ar y brif ddewislen, cliciwch Edit ac yna dewiswch Preferences Dewiswch Navigator o'r rhestr o gategorïau.

Dewiswch Navigator o'r rhestr o gategorïau.

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i'r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i'r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer..

Gosodwyd tair cystadleuaeth i gyd ac yr oedd degau o gynigion i'w gweld ar dudalennau'r Annedd o fewn ychydig ddyddiau i lansio'r Rhestr Testunau.

Erbyn heddiw mae rhestr go hir o'r gronynnau hyn ac yma eto ceir yr un rhyfeddodau ffeithiol ag sydd yn y macrocosmos.

"Onibai mod i wedi gofalu cadw Fflwffen yn y tŷ rydw i'n siwr y byddai ei henw hithau ar y rhestr hefyd.

Fy nghyngor i, felly, fyddai i Stuart, Kelly a Richard ystyried newid cyfeiriad o ryw fath erbyn yr albym nesaf, cyn i'r Cymru ifanc roi'r gorau i'w cynnwys ar eu rhestr o hoff grwpiau...

Gofynnir i bob awdurdod anfon rhestr o'i destunau o flaen llaw ac yna fe drefnir system o baru gydag awdurdodau a thestunau tebyg.

Mae'r rheiny sy'n bedwerydd ac yn bumed ar y rhestr yn y bon yn gwastraffu eu hamser.

Fel llawer i dad a mam, credaf bod dada a mam yn y rhestr yma.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Cynigiwyd saith enw a gofynnwyd i Gyngor yr Undeb ddewis tri ohonynt fel rhestr fer.

Chwaraewyr eraill ar y rhestr fer yw Teddy Sheringham a Roy Keane o Manchester United, Emile Heskey o Lerpwl, Thierry Henry o Arsenal a Marcus Stewart o Ipswich.

Mi wnes yn saff o 'mhethe am weddill ein harhosiad yn Llunden drwy baratoi rhestr o'r manne i ymweld â nhw.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Ar ben y rhestr daw dwy genedl gymharol fawr, y Pwyliaid, a gollasai eu hannibyniaeth yn ddiweddar iawn, a'r Magyariaid, a gadwai elfennau o statws awtonomaidd o hyd o dan Fien.

I gael clywed y rhestr i gyd cofiwch am Y Goeden Roc nos Lun am 18.12 ac wedyn b'nawn Sadwrn am 12:30.

Ni welaf fod rhestr gweithgareddau'r Uned Rhaglenni Cyffredinol heddiw yn cyffwrdd ag unrhyw faes nad oedd yn cael sylw llawn chwarter canrif yn ôl Y mae yna un neu ddau o ddatblygiadau sy'n gwneud bywyd yn haws i'r cynhyrchydd efallai.

Gorchmynion rif y gwlith: ffonio Elsie Hughes a gofyn iddi newid y rhestr am nad oedd Mem yn dymuno cludo'r ddwy Saesnes eto.

Ar ben y rhestr yr oedd y bwyd gorau debyg a gosododd ei fys ar gyfer hwnnw.

Ymlaen ac ymlaen y sisialodd y gwrachod, drwy weddill y rhestr o eiriau yn dechrau â 'B'.

Cwynodd William Graham, Ceidwadwr, bod disgwyl i Aelodau sy'n perthyn i fath arall o seiri - y Seiri Rhyddion - gyhoeddi hynny yn rhestr eu diddordebau.

"Rhestr Prisiau% Rhestr Prisiau'r Archif am ddarparu a chaniatau defnyddio'r Deunydd fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Bwriad y rhestr e-bost yw darparu lle i ddysgwyr yr iaith Gymraeg dysgu, calonogi ei gilydd, gofyn cwestiynau, rhannu gwybodaeth, ymarfer, a chael hwyl.

Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.

Mae Mark Williams wedi sicrhau'i le ar frig rhestr detholion snwcer y byd am dymor arall.

Internet Explorer for Windows 3.1 Ar y brif ddewislen, cliciwch View ac yna dewiswch Options Dewiswch Navigation o'r rhestr o gategorïau.

Cystadlaethau a Rhestr Testunau Eisteddfod Powys.

Mae'r rhestr yn awr yn cyfateb i'r 'unigolion' gyda'r 'DNA' teithio gorau o'u cymharu â'r gweddill.

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.

gang@bbc.co.uk neu pleidleisiwch am y gân waethaf o'r rhestr uchod.

Mae'r rhestr yn cynnwys brodyr a chwiorydd, a'u plant, a'u plant-yng- nghyfraith, cefndryd a chyfnitherod.

Cymerir y rhai sydd ar frig y rhestr yma, a'u hatgenhedlu'n rhywiol gyda'i gilydd.

Ym mhen y rhestr - a rhestr bendefigaidd ar y cyfan, cofier - y mae enwau rhai o wŷr mawr y genedl yn eu cyfnod.

Rhestr o leoedd sy'n gwerthu CDs ar y We.

Rhestr o'r llyfrau y mae y gweisg yn eu paratoi ar hyn o bryd.

Awgrymai'r adroddiad felly y dylid ehangu ffurflenni cais ar gyfer caniatâd cynllunio am dai mewn ardaloedd gwledig drwy ychwanegu rhestr o gwestiynau ychwanegol i'r ymgeisydd ynglŷn â dyluniad, lleoliad a.y.

Trosir hyn i'r cyfrifiadur drwy greu poblogaeth fechan o 'DNA' mewn meddalwedd - yn syml, rhestr sy'n cynnwys nifer o gyfuniadau o'r chwe llythyren uchod.

Peidiwch â nghamddeall i – mae hon yn albym ddigon dymunol, a does gen i ddim amheuaeth y bydd hi'n plesio cefnogwyr y grwp; ond ar hyn o bryd mae Word Gets Around yn dal i fod ar dop y rhestr, er bod yna bellach dair blynedd a hanner ers ei rhyddhau.

Gofynnwyd hefyd inni roi rhestr o lyfrau yr oeddem ni wedi'u darllen.

Ceisiwch gadw 'Dyddiadur diet' am ychydig ddyddiau, gan ysgrifennu rhestr o'r bwydydd rydych yn ei bwyta a'r amser a'r lle y cawsant eu bwyta.

Ond cloasid glowyr Trimsaran maes naw mis ynghynt, wedi iddynt ballu derbyn rhestr newydd o daliadau gan y cwmni am fwyngloddio gwythi%en ffres.

Internet Explorer 3+ Ar y brif ddewislen, cliciwch View ac yna dewiswch Internet Options Dewiswch Navigation o'r rhestr o gategorïau.

Netscape Navigator ar gyfer Apple Macintosh Ar y brif ddewislen, cliciwch Edit ac yna dewiswch Preferences Dewiswch Navigator o'r rhestr o gategorïau.

Internet Explorer 5+ Ar y brif ddewislen, cliciwch Tools ac yna dewiswch Internet Options Dewiswch General o'r rhestr o gategorïau.

Mae BBC Radio Cymru wedi cwblhau cyfres o ganllawiau newydd a rhestr eirfa i gyflwynwyr.

America Online 3+ Ar y brif ddewislen, cliciwch Members ac yna dewiswch Preferences Dewiswch icon WWW o'r rhestr o gategorïau.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob mis.

Gellid llunio rhestr faith o bregethwyr grymus ond y mae enwau rhai'n amlycach na'i gilydd.

Trodd Llio'r tudalennau a gwelodd fod rhestr faith o longau a disgrifiad ohonynt - mesuriadau, gwneuthurwyr, mordeithiau a'r hyn a ddigwyddodd iddynt.

Dewiswch Navigation o'r rhestr o gategorïau.

Yna, yn sgîl cyhoeddi adroddiad interim Ieithoedd Modern pwysleisiwyd yr angen i gynnwys y Gymraeg yn y rhestr o ieithoedd sy'n bosibl eu dysgu yn Lloegr.

Yn fuan wedi i greigiau Blaen Rhestr ymddangos ar y dde bydd y ffordd yn plymio'n sydyn i ryw bantle cyn ailgodi'n serth yr ochr draw; dyna Fwlch y Clawdd Du.