Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhestru

rhestru

Mae rhesymau y gellid eu rhestru o blaid ac yn erbyn y syniad hwn.

Gyda llawer ebychiad o 'Ie, ie, rwy'n cofio Nhad yn dweud,' a 'Dyna oedd y stori glywes i gyda Mam, druan,' gwrandawyd arno'n rhestru gweithredoedd y tadau.

Ateg i'r dybiaeth yw fod yn y Llyfr Coch gyfres o drioedd yn rhestru casbethau 'Gwilim Hir, saer Hopkyn ap Thomas.' Y beirdd a ganodd i Hopcyn ydoedd Dafydd y Coed, Ieuan llwyd fab y Gargam, Llywelyn Goch ap Meurug Hen, Madog Dwygraig a Meurug fab Iorwerth.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Wedyn dyma fo'n dechra rhestru'r bendithion oedd ei blaid o wedi džad i mi'n bersonol.

Mae'r Cyfeiriadur yn rhestru nifer o wefannau Cymraeg yn ôl categori.

Y neges felly yw rhestru pob taliad misol, gan gofio'r trydan, y nwy, pob polisi yswiriant, y dreth cyngor a'r bil ffôn, a gweld faint sydd ar ôl i'w wario ac i ad-dalu'r benthyciad.

Mae'r rhif mor uchel nes y bu'n rhaid i gangen Cymru o'r Kennel Club gyhoeddi dyddiadur sy'n rhestru a chadw trefn ar yr holl ddigwyddiadau.

Maen gyflwr hynod o ffasiynol sy'n apelio at ferched ac ymhlith y JGEs syn cael eu rhestru i brofi hynny y mae y cogydd teledu, Jamie Oliver, yr actor, Jude Law ar canwr, Robbie Williams.

Da yw deall felly, nad yw Duw yn rhestru ein gwendidau na'n cryfderau ni.

Yn y drydedd adran rhaid rhestru cenhedloedd llai, a chanddynt rhwng pedwar can mil a miliwn a hanner o siaradwyr - y Cymry, y Llydawiaid a'r Basgiaid yn y Gorllewin; y Slofeniaid, y cenhedloedd Baltig a'r Albaniaid yn y Dwyrain.

Ymhlith eu plant gellir rhestru'r canlynol:

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

O'u defnyddio yn y dosbarth, gall yr offer yma arbed y darlithydd neu'r athro rhag gorfod llafurio i ennyn brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc trwy ddisgrifio a rhestru ffeithiau yn unig.

Mae'n amlwg fod y gyfres ysgubol o linellau sy'n dechrau â 'fy' yn y pedwerydd paragraff yn tynnu ar dechneg dyfalu, lle byddai bardd yn rhestru pethau a oedd yn geffelyb i'r gwrthrych.

Wyt ti'n meddwl lici di yma?" "Newydd gyrraedd ydw i," medda fi, "dydw i ddim wedi cael amsar i edrych o 'nghwmpas eto." A dyma fo'n dechra rhestru ansawdd y bwyd a'r bendithion, ac yn fy sicrhau i, unwaith y baswn i'n setlo, mai yn o y mynnwn i fod.

Gwelsom nad yw'r Esgob Morgan yn brin o ddatgan ei ddyled i'w gynorthwywyr, ond nid yw'n rhestru John Davies yn eu plith.

Mae'r cyfrifoldeb am yr holl ffyrdd, heblaw am y priffyrdd, yn nwylo Cyngor Sir Clwyd ac mae Rhaglen Ffyrdd Clwyd yn rhestru nifer o gynlluniau i wella pethau yn ardal y Bedol o Landymog i Graianrhyd ac o Fetws Gwerful Goch i Landegla.

Clywed rhai enwogion hen Ysgol Ramadeg (Cyfun wedi hynny) Dyffryn Aman yn cael eu rhestru ar Radio Cymru ddechrau'r wythnos, wnaeth i mi feddwl.

Cyn inni symud ymlaen i archwilio pa ddiffygion sy'n perthyn i'r theori uchod, buddiol yn gyntaf fydd rhestru'r tybiaethau y mae'r model a ddisgrifir yn Ffigur I yn seiliedig arnynt:

Mae nifer o gwmniau wedi bod yn anfon cyfrifon yn Gymraeg (mater gwahanol i'r "Return" sy'n rhestru manylion Cyfarwyddwyr ac ati) ers blynyddoedd i D^y'r Cwmniau, ac wedi cael eu gwrthod.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC.

Byddai'r eitemau mwyaf distadl a wnaeth wedi eu rhestru, fel gosod pedol ar esgid, neu glipyn newydd ar ei blaen.

Pan oedd yr Esgob Henry Rowland yn rhestru'r ymddiriedolwyr a oedd i sefydlu Ysgol Botwnnog, un o'r rhai a enwodd oedd John Griffith, Cefn Amwlch.

A dyma Jini yn dechrau rhestru'r troseddau unwaith eto - a'r rhestr yn feithach y tro hwn.