Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhesymeg

rhesymeg

Ni esbonnir y rhesymeg sy'n cysylltu gollwng gwaed â symud pechodau.

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

Os yw am ddilyn y rhesymeg yna i'r pen yna dylai alw ar i Aelodau Seneddol Toriaidd ymatal rhag pleidleisio ar Ddeddf Addysg i Gymru.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Amlinellodd hefyd y rhesymeg tros ddileu'r gwasanaeth.

Mae'r awdur wedi colli'r cyfle i ddatblygu'r cymeriadau gan roi rhywfaint o hygrededd a rhesymeg y tu ôl i'w gweithredoedd.

Mae'r ail 'Iesu Grist' yn corffori metaffiseg bersonol bendant ac iddi ei rhesymeg ei hun.

Fodd bynnag, sylwyd gyda'r ddau hyn nad oedd hynny'n digwydd, a'r rhesymeg tu ôl i hynny oedd fod yr haen o lwch llif yn cadw gwres yr haul rhag treiddio i mewn i'r ddaear a'i chynhesu a symbylu bacteria i gyflawni eu gwaith o gynhyrchu yr elfen nitrad sy'n gyfrifol am greu swm o dyfiant.

Ac mae'n sicr fod y rhesymeg hwn yn cyfrif llawer am lwyddiant Ankst hyd yn hyn; cred Gruffydd ac Alun ei bod hi'n bwysig eu bod nhw eu hunain yn cael eu cyffroi gan unrhyw grwpiau neu artistiaid unigol y mae Ankst fel cwmni'n ymgymryd â nhw.

Ond nid oedd y rhesymeg hwn yn atal arweinwyr yr Ymneilltuwyr rhag credu fel yr Eglwyswyr, fod yn rhaid i'r dosbarth gweithiol Cymraeg ddysgu Saesneg.

Drwy ddefnyddio'r un rhesymeg gellir dadlau fod Cymru wedi datblygu, defacto, ei threfn addysg ei hun, ac y dylai gael hawliau deddfwriaethol yn y maes hwn.

Drwy ddefnyddio'r un rhesymeg gellir dadlau fod Cymru wedi datblygu, de facto, ei threfn addysg ei hun, ac y dylai gael hawliau deddfwriaethol yn y maes hwn.

Does dim rhesymeg na thefn i'r nodiadau hyn, dim ond mympwy a phleser.

'Roedd hyn yn rhan bwysig o'i ymdrech i danseilio rhesymeg materyddol naturiolaidd a dangos y berthynas sydd rhwng dyn a'i amgylchfyd.