Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhesymol

rhesymol

Arferai Aggie ddarparu bwyd i ni am bris rhesymol iawn.

Ac y mae Gwasg Carreg Gwalch nid yn unig yn haeddu ei chanmol am ymgymryd a'r dasg enfawr hon ond hefyd am sicrhau fod y gwahanol gyfrolau yn cael eu cyhoeddi o fewn amser rhesymol i'w gilydd.

Mem yma ddeg o'r gloch ac yn dweud bod rhaid i mi ffonio Elsie a dweud wrthi am newid ein twrn ac yn ychwanegu ei bod hi wedi syrffedu ar y ddwy Saesnes cyn i ni anghydweld ynglŷn â rhyfel y Falklands; gofyn iddi geisio bod yn rhesymol.

Er nad ydw i'n ddoctor rwyn credu ei bod yr un mor rhesymol tybio y gallair dewis anghywir o lyfr wneud dirfawr ddrwg i rywun hefyd.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol fach gyflwyno'n effeithiol y Cwricwlwm 'Cenedlaethol'. Mae'n wir na ellid yn rhesymol ddisgwyl gan 2 athro yr amrywiaeth o arbenigedd i gyflwyno ar eu pennau eu hunain yr holl gwricwlwm, ac felly na allai ysgolion bach, yn eu ffurf draddodiadol, gyflwyno'r cwricwlwm yn gyflawn.

Hynny yw, mae'n rhesymol tybio y byddai llenor yn meddu ar dreiddgarwch Danied Owen yn datguddio mwy ohono ei hun yn ei waith.

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

Ieuenctid ac oedolion ifainc sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan ddiweithdra cynyddol, prinder tai addas a rhesymol ac amgylchfyd greithiol a threuliedig.

A'r angen hwn a barodd i Charles deimlo fod yn rhaid wrth gynllun ymarferol i argraffu beiblau Cymraeg ar raddfa fawr a'u cynnig am bris rhesymol i'r tlodion.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Unwaith eto, mae'r prisiau yn rhesymol iawn.

Y rheswm dros ddweud hyn yw y bydd eich rheolwr banc yn edrych yn fanwl ar eich cyfrif, ac yn eich helpu i benderfynu pa fath o swm sy'n rhesymol i chi fedru ei ad-dalu.

Gan mae'r Almaen fydd un o brif benseiri'r Gymuned, mae'n rhesymol credu y bydd egwyddor subsidiarity yn ffynnu'n gryfach yn ei chyfundrefnau.

Cafwyd gwrthwynebiad a phrotest, cafwyd cyflwyno dadleuon rhesymol a rhesymegol, cafwyd trafod ac ymgynghori.

Ac mi rydan ni ynghanol y cyfnod hwnnw jyst cyn i'r dydd oleuo lle mae pob dim afreal yn edrych yn gwbl real a rhesymol.

Mae'r cyfan yn cyfuno i roi patrwm rhesymol, enfawr, sy'n cwmpasu symudiadau gwrthrychau yn y ddaear a'r nef.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

Digon rhesymol gwneud esgus i ymdroi o gwmpas Crud y Gwynt am ryw hanner awr ychwanegol, ond wedyn byddai'n rhaid iddi gerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd y ffordd i aros amdano.

Ond dyna oedd y peth rhesymol oherwydd diffyg pres a diffyg niferoedd, mi fasa'n gwneud synnwyr i ni gyd gyfarfod ar y Sul yn un Eglwys yn Aberdaron.

Unwaith eto, yn yr holl gyhoeddiadau a datganiadau cadarnhaol o du'r Llywodraeth a'r Grwp, mae'r bwganod oesol 'Rhesymol ac Ymarferol' yn codi eu pennau.

Ond y canlyniad rhesymol yw mai lluniau symudol ynghyd â sain sy'n fwyaf effeithiol: gweld gwlad bell, ei phobl a'i blaenoriaethau wrth ddatblygu trwy gyfrwng darlun lliw symudol a sylwebaeth sain yw'r nesaf peth at fynd yno ein hunain.

I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

O fewn ffiniau rhesymol gall y rhain fod yn unrhyw rif ond mae'n bosib eu mesur yn ddidrafferth gydag offer gweddol syml.

Byddai'n fwy rhesymol a chyfiawn iddynt ladd y Saeson na lladd yr Almaenwyr, fel y gwnâi'r Gwyddelod.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Mae nhw'n lyfrau clawr caled gyda thudalennau bwrdd sydd eto o faint twt a chyfleus am bris rhesymol.

Wedyn, mae'r gwerthiannau o ddiddordeb; os yw'r gwerthiannau'n cynyddu o un flwyddyn i'r llall, y casgliad rhesymol a wneir yw bod y busnes yn llewyrchus.

Pwysodd Waters arno ynglŷn â'r ymladd gan nad oedd neb wedi gweld Mary'n gadael y tŷ a'i ateb ef, yn ddigon rhesymol oedd, 'Wel, rydych chi wedi chwilio'r tŷ ac nid yw Mary yma, felly mae'n rhaid ei bod wedi gadael.' Digon teg.

'Roedd y perchennog erbyn hyn wedi paratoi costau a oedd yn dangos grant yr uned llawer mwy rhesymol ac y gellid ei gefnogi drwy gais i'r Swyddfa Gymreig.

Hyd yn oed o fewn y sector cyhoeddus, caiff y Gymraeg ei defnyddio pan y bydd yn 'rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau'. Rhaid cyfiawnhau defnyddio'r Gymraeg o fewn y telerau hyn.

Petai gofyn iddynt, rhesymol fyddai disgwyl iddynt sefydlu rhwydweithiau lleol i gyflawni'r gwaith - yn achos ysgolion os nad y colegau - a dyna union swyddogaeth awdurdodau lleol!

Cyn diwedd streic y Cambrian, penderfynasai Undeb y Morwyr ymwrthod â gwaith o fis Gorffennaf ymlaen, nes bod perchnogion y llongau yn cydnabod yr undeb ac yn talu cyflogau mwy rhesymol.

Finne'n chwarae rhan y gŵr rhesymol, gan geisio esbonio mai'r Kurdiaid oedd o ddiddordeb i ni, nid unrhyw gyfrinachau milwrol.

Y mae'n amlwg nad yw pob newid er gwell, ond da o beth oedd nodi prisiau isel cerddoriaeth brintiedig a recordiau CD sydd, hyd yma, wedi osgoi'r fwyell faterol ac sy'n cynnig cyfle gwych i'r brodorion a'r ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r gelfyddyd am arian digon rhesymol yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Nid oedd gennym recordydd fideo symudol a allai weithio heb gyflenwad trydan, ac yn ychwanegol at hyn nid oedd modd prynu camera fideo lliw symudol am bris rhesymol a fedrai ateb ein hanghenion.

Mater o gamblo oedd dewis ar ba ochr i sefyll, er bod gamblo ar Grist yn fwy rhesymol yn ei olwg ef na gamblo ar Farx.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.

ar ran yr asiantaeth scya ) cyflwynwyd achos fod y tasau a'r profion yn asesu o leiaf hanner y datganiadau y gellid eu hasesu yn y modd hwn mewn amser rhesymol, a mynegodd y gweithgor fod hon yn egwyddor dderbyniol, o gofio mor gynhwysfawr y mae llawer o'r dogau.

Wrth gadarnhau'r penodiad teimlad unfrydol y Pwyllgor Gwaith oedd fod swyddog rhagorol wedi cael ei benodi ar delerau rhesymol dros ben.

Byddai'n rhesymol, felly, i'r Bwrdd ddisgwyl i'r cynghorau cyllido a'r awdurdodau addysg lleol - neu'r Swyddfa Gymreig yn achos ysgolion a gynhelir dan grant - fod yn gyfrifol am gyfryngu polisi%au iaith y sefydliadau y maen nhw'n gyfrifol am eu hariannu a monitro gweithredu'r polisi%au hynny.

Er mwyn datblygu bywyd rhaid i adweithiau cemegol ddigwydd ar gyflymder rhesymol, ond os disgynna'r tymheredd yna mae cyfradd yr adweithiau hyn yn disgyn hefyd.

Peth na ellir ei wneud yn rhesymol ond yn unig yn y rhannau hynny y mae'r Cymry Cymraeg yn nifer sylweddol o'r boblogaeth yw hyn.

Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.

Byddai unwaith yr wythnos yn rhesymol.