Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhewllyd

rhewllyd

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Daw'r eira cyn y bore, meddai'r naill wrth y llall, gan wrando ar ddolefiad y gwynt a chofio'r gaeaf rhewllyd chwe blynedd ynghynt.

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

Byddwn yn parcio fy nghar lle'r oedd pawb arall yn parcio a cherdded yr holl ffordd i ble bynnag yr oeddwn am fynd - hyd yn oed yn y gaeaf ar hyd palmentydd rhewllyd.

Roedd fy nhad yn digwydd trafod y tywydd gyda fo ar fore rhewllyd yn Ionawr.

Gwnaeth Jean Marcel wyneb hyll ar Marie a safai wrth ei ymyl, cododd goler ei gôt dros ei glustiau a gwthio ei ddwylo rhewllyd i waelodion ei bocedi.

Nid yw distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd y wlad, distawrwydd y tir ar fore rhewllyd o aeaf neu'r distawrwydd yng nghanol gallt o goed.

Dychmygwn fy mod gartref ar fore rhewllyd, a'r badell ffrio ar y tân a golwyth o facwn yn araf ffri%o ynddi.

Roedd hi'n fora oer, rhewllyd ac aeth Ifor allan i gael golwg ar y fuwch.

Roedd hi fel pe bai rhan ohono ef ei hun ar grwydr yn seithug o ffyrnig yn y caddug rhewllyd y tu allan.