Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhith

rhith

Tra adnabyddus yw'r hyn a ddywedir yn y Pedair Cainc am Wydion a Lleu yn mynd tua Chaer Aranrhod yn rhith beirdd o Forgannwg.

Colbir yr Eisteddfod Genedlaethol am roi'r 'lle blaenaf o hyd i ffurf obsolesent fel yr awdl'; y mae'r Eisteddfod wedi mynd yn sioe enfawr ariangar, wedi ei llwyr ysgaru â phob rhith o gelfyddyd'; ac y mae ei chystadlaethau'n anathema i gelfyddyd.

Ychwanegwyd yr iwaleiddio: Y mae aristocratiaeth neu oligarchiaeth, a garfer y gair sy'n well gwrthwyneb i ddemocratiaeth, yn meddwl rheolaeth yr ychydig dros y llawer, yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd gan yr ychydig ar bethau materol y byd, ac wrth y pethau materol meddyliaf ei gyfoeth, ei allu cymdeithasol, ei allu politicaidd, ei ddysg, - popeth sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r rhith yr ydym yn byw yn ei ganol.

Neges anobaith oedd gan hwn hefyd, ac nid oedd gan Gristnogaeth ddim i'w ddweud wrtho: Rhith yw geiriau y gau ŵr a'th garodd, Y gŵr a'r hoelion y gŵr a wylodd.

Erbyn 1914 'roedd technoleg y ffilm wedi datblygu, ac 'roedd yn barod i gofnodi rhith a realaeth, ffantasi a ffaith.

Yn ogystal, rhith, i raddau helaeth, yw'r weledigaeth o "swyddfa ddi-bapur".

Gerwyn Wiliams, Arwyddion Ffyrdd yn 'Rhosyn a Rhith'

Ond fe'i cysurai ei hun drwy gofio mai hynny oedd hanes dyn drwy'r canrifoedd er pan ddisgynnodd y duwiau yn rhith anifeiliaid, i'r ddaear i garu merched dynion.

Ond y maent yn sicr iawn eu trawiad, yn felodaidd ac yn felys, ac yn creu'n llwyddiannus y rhith didwylledd hwnnw sy'n rhan o gamp bardd mawr, hyd ynoed pan na bydd y gân yn brofiad uniongyrchol iddo.