Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rho

rho

Rho inni weledigaeth glir o addaster yr Efengyl ar gyfer yr ieuanc fel yr hen.

Gad i ni ofyn am dy gymorth di, gad i ni ymdawelu gyda thi, a rho bwrpas ac amcan priodol i'n bodolaeth ni o fewn dy deyrnas.

Dyma iti wats, rho hi am dy arddwrn,' ac er mawr syndod i'r bachgen taflodd wats arddwrn hardd ar y gwely.

Gweddi: Rho ddygnwch a dyfalbarhad i ni, ein Duw, a rho ysbrydoliaeth gobaith.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Os gwnaiff un ohonyn nhw rywbeth i ti amser chwarae'r pnawn - a mi wnân, raid i ti ddim ofni - gwasga fo'n reit dda, neu rho hergwd iddo fo.

Rho ben y tennyn i Rhys a chymer di'r posteri yma,' meddai Mrs Huws wrth Seimon.

Rho i ni gael ein puro â'th ras.

Rho lymaid o'r Ddiod Dda iddo.

Rho wawr i arwain.

Rŵan, rhag i ni wastraffu dim amser - ydi'r bibell efydd yn barod!" "Ydi, dacw hi." "Reit, rho di dy glust wrth un pen ac fe siarada i y pen arall.

Rho'r Afal Aur i mi.'

Rho fo i Wmffra.

Rhaid i'm henaid noeth, newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau; Rho dy wisg ddisgleirwen, olau, Cuddia'm noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr.

Ydi'r postciard yna yn dy boced ti'n barod?" "Ydi." Eisteddai William erbyn hyn ar y gadair freichiau a'i droed ar y ffender yn cau ei esgid, a rhôi ei ben i lawr cyn ised ag y medrai rhag i neb weld ei fod bron â chrio.

Rho i ni gael canu hyd yn oed yn wyneb y gelyn eithaf.

Rho fo'n anrheg iddo fo.

Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

Rhag ofn i hynny ddigwydd, felly, rho di'r Afal Aur i mi.

Tyrd, rho hi am dy arddwrn, mi gei honna am fod yn hogyn da.'