Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhuthro

rhuthro

A go brin y bydd y dosbarth canol Cymraeg yn rhuthro i gynghori eu merched i fod yn forwyn.

Tra oedd pawb arall yn dilyn y llwybr tro am y capel, byddai Nan, gynted ag yr oedd hi drwy'r giât, yn rhuthro ar draws y gwelltglas, gan weiddi dros ei hysgwydd, 'Unionwch ffordd yr Arglwydd'.

draw fan acw!' Gwelodd pobl y dref don o anifeiliad yn rhuthro lawr y stryd fawr.

Roedd Tony Blair yn amlwg wedi blino'n rhacs rôl rhuthro'n ôl o Albania i lansio'r maniffesto Llafur.

Eisoes, roedd y bugeiliaid ar y bryniau pellaf wedi rhuthro'n ôl i'r dref gyda'r neges arswydus bod byddin anferth ar ei ffordd tuag yno, Cannoedd, os nad miloedd o filwyr.

Dechreuodd y wraig lefen, a fe droiodd y ffarmwr a rhuthro allan o'r tŷ heb ddweud gair.

Dechreuodd fel gwichian a siffrwd wedyn troes yn sgrechian a sŵn rhuthro.

Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.

Wrth i hyn ddigwydd gwelwyd cwch modur yn rhuthro tuag atyn nhw.

Roedd gwynt mawr wedi taro eu llong ym Môr China, a'r llifeiriant wedi rhuthro i ystafell y peiriannau gan fygwth malurio'r llong yn ddarnau.

Efallai y byddai wedi bod yn well i'r sgrifenwyr rygbi eraill hefyd fod wedi oedi a phwyllo cyn rhuthro mor gyflym i ganmol ar sail tystiolaeth digon bregus.

Mae Mai yn fis prysur ond, o ddefnyddio'r amser i wneud popeth yn ei dro, ni fydd yn rhaid rhuthro o gwmpas yr ardd.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

rhuthro'n ôl am y tŷ â'r lamp yn ei law grynedig, i gyhoeddi'r newyddion ysgeler.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gūr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

Nid yw "datblygu'n gyflym" yn golygu eich bod yn rhuthro allan â!ch darnau mawr i ganol y bwrdd chwaith.

Roedd yr afon yn rhuthro'n wyllt dros y cerrig ac yna'n arafu a throi mewn pwll dwfn.

Neidiodd allan o'r gwely a rhuthro i mewn i lofft ei merch fach, Leah.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

ychydig funudau wedi iddynt gyrraedd y bedol cyrhaeddodd llong huw, ac ychydig y tu ôl iddi longau ffred a gethin yn taro 'n ei gilydd wrth agosau, ac un wil yn rhuthro tuag atynt atynt fi sy 'n ennill !

Ynteu a yw'r clwy llenydda wedi bachu mor ddwfn fel bo raid rhuthro'r pin at y papur ar amrant megis, ac ymlwybro o'r gwely i wneud hynny?

Fe'i cynheswyd fymryn wrth gofio am y dyddiau ysgol rheini pan fyddai Gwyn yn rhuthro am adra a'i wynt yn ei ddwrn a'i ben yn llawn syniadau.

Mae rhywbeth yn wyrdroedig yn y peth: nid perfert fel yr hen ddyn budr, ond merch gall yn ei hoed a'i hamser yn prynu papur 'Dolig ym mis Medi neu'n waeth byth, yn rhuthro am sêls ddechrau ionawr i brynu anrhegion at y 'Dolig nesa'.

Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

"Dacw fe, draw fan acw!" Rwyt yn troi ac yn gweld yn agos i ddwsin o'r pentrefwyr yn rhuthro tuag atat.

Ni fydd y meini byth yn gadael y rhostir ond am ychydig funudau yn unig ac yna mi fyddant yn rhuthro yn eu holau yn wyllt er mwyn gorwedd ar y trysor am gan mlynedd arall." "Wel wir, wyddwn i erioed mo hynny o'r blaen," meddai'r asyn.

Roedd Bethlehem yn anhrefn llwyr wrth i bobl fanteisio ar eu hychydig oriau o ryddid: y strydoedd cul dan eu sang o bobl, mulod a cherbydau yn rhuthro i bob cyfeiriad.

Ond pan fo'r ddraenen wen yn wych hau dy had boed sych neu wlyb." Mewn geiriau eraill mae'n iawn i beidio rhuthro i hau nes bo'r ddraenen wen yn ei blodau ond mae hynny ymhell i ffwrdd eleni.

Fel arfer, fi ydy'r un sy'n rhuthro'n orffwyll o Oxfam i Mencap ac yn ôl i Achu'o y Plant (mae angen Achub Rhieni adeg y 'Dolig, heb sôn am blant) yn chwilio am gerdyn rhad i'w yrru at Glenda a Bryn a gofiodd amdanom eleni er i ni eu croesi oddi ar y rhestr ers tair blynedd bellach.

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

Fe'i gwelais un bore ar fy ffordd i'r ysgol yn rhuthro o'r tŷ a thynnu'r drws yn glep ar ei ôl a gweiddi: 'Cadwch eich pres 'ta.