Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwyd

rhwyd

Ar ôl cael cymaint o brobleme sgoAo roedd Cymru wedi rhoi'r bêl yn y rhwyd bedair gwaith yn y gêm gynta hebddo, a hynny yn erbyn Lloegr.

Yr wyf fi yn hoff o glywed tonnau'r môr yn curo'r creigiau ac yn taflu'r ewyn i fyny fel rhwyd i ddal pelydrau'r haul.

o ydyn, mae'r rhwyd yn cau amdanyn nhw yn barod.

Yn araf, araf ac yntau'n rhoi ambell sblash o wrthwynebiad â'i gynffon ac yn dangos dyfnder ochr arian a sgleiniai yn y tywyllwch, tynnais ef dros y rhwyd - a'i chodi .

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Byddai'n siŵr o'm hatgoffa iddo gael ei eni (yn ail o deulu o ddeg) a rhwyd ysgafn (caul) am ei ben.

Ddiwedd yr ail hanner cafwyd patrwm tebyg gyda Daniel Gabbidon yn canfod y rhwyd gydag ergyd dda wedi 85 munud.

Porthcawl, Langland, Oxwich a'r Mwnt padlo, pysgota efo rhwyd ac adeiladu cestyll ar y tywod yn ogystal ag yn yr awyr.

Ei gyffyrddiad cynta o'r bêl fu ei chodi allan o gefn y rhwyd.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

clywn fi'n dweud wrthyf fy hun, 'paid â ffrwcsio, gwna bethau'n ofalus bendith y tad i chdi.' Cymerais fy rhwyd o'm gwregys a'i hagor.

Yr her i bob un ohonom wrth daflu'n rhwyd ymhellach, a thrwy wneud hynny herio rhai confensiynau ceidwadol Cymreig, yw ceisio cyrraedd y grŵp sylweddol hwn o Gymry Cymraeg a cheisio denu eu cefnogaeth yn araf bach i weithgareddau ac adloniant yn yr iaith Gymraeg.

yn rhoi yr adain hwyl-debyg enfawr ar ei chefn ar draws y lli ac yn cwffio bob medr i'r rhwyd ...

Cam pwysig yn y broses hon oedd yr un a ddaeth â Kitchener i sylweddoli fod yna fwy nag un deimensiwn i'r rhwyd o amgylchiadau mae'r unigolyn yn byw ynddo.

Wrth rwydo'n rheolaidd efo rhwyd fân, mewn gwahanol ddyfnderoedd wrth hwylio ar draws yr Iwerydd, gwnaeth siart yn dangos hyd y llysywod bach a ddelid.