Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwydd

rhwydd

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Darganfu'r patholegydd wedyn nad canser oedd arni ond wlser stumog a dorrodd trwodd i'r pancreas - peth digon rhwydd i'w wella.

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

Ni allai adael iddo fynd mor rhwydd.

'Roedd y dafarn yn rhwydd lawn, o bobl, o fwg, o sŵn, a'r ffenestri'n ager i gyd gan iddi fwrw drwy'r dydd.

Trwy gymeradwyo hyn y mae hefyd wedi rhoi rhwydd hynt i'r Wasg hela'r llanc ifanc.

Ond ymlaen yr aeth y cynnig, a'i gario'n eithaf rhwydd: ùsiaradodd Gerallt Jones wrth ei gynnig, ond eilio'n ffurfiol a wneuthum i, gan fwriadu siarad yn ddiweddarach pe gwelwn fod angen ateb unrhyw ddadl: ond ni fu angen.

Prin yw'r manylion, gyda'r paent wedi ei roi'n gyflym a rhwydd, peth sy'n rhan o awgrymu darfodedigrwydd yr olygfa a'r brys i'w mynegi tra mae'n para.

Aeth y mesur drwy'r Senedd yn rhwydd.

Yna cychwynnid ar y gwaith o dorri tyllau yn y cyrbau i dderbyn y camogau; hwn oedd y gwaith anoddaf o ddigon, rhaid oedd tyllu fel bod yr oledd yn iawn a'r camogau'n mynd i mewn yn rhwydd i'r tyllau yn y cyrbau.

Nid yw'n cynnig atebion rhwydd i ni ynglyn â sut i fynd ati i drefnu'r Gymraeg yn y Cynulliad, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw paratoi yn drylwyr i gael sustem effeithiol o'r diwrnod cyntaf un: sustem sydd yn caniatau iddi fod yn hollol ymarferol a phriodol i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ym mhob agwedd o fywyd y Cynulliad.

Roedd y capel yn rhwydd lawn y noson honno hefyd ond ni chafwyd yr un wefr ac yn hytrach na chael "encore% mynd allan o diwn wnes i.

Pam mae solidau fel alwminiwm yn plygu yn rhwydd ond nid felly haearn bwrw?

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Dylid annog y cyrff sy'n cynnig gwasanaethau dwyieithog i'w gwneud hi'n rhwydd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda hwy.

Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.

Gall goleuni deithio'n rhwydd o un pen i'r llall o'r ffibr, ond ni all ddianc drwy'r ochrau oherwydd fod adlewyrchiad mewnol ar y ffin rhwng y craidd a'r gorchudd.

Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.

Cafodd y prif ddetholion Pete Sampras a Martina Hingis fuddugoliaethau rhwydd.

Gosodwch y blwch ar ogwydd tua'r pen blaen er mwyn i'r dŵr glaw lifo oddi arno'n rhwydd.

Does 'mo'r fath beth a hunan-leiddiad yn bod, wrth natur - amgylchiadau a digwyddiadau sy'n gyrru pobl i wneud peth felly." "Rwy'n siarad am actores oedd yn ei chael hi'n rhy rhwydd i fyw rhannau dramatig a apeliai i'w dychymyg, yn hytrach nag ymdrechu i wneud rhywbeth o'i bywyd ei hun." "Ac rwy i'n son am ddigwyddiadau a'u canlyniadau.

Yr oedd yn wr a'i fryd ar y pethau a gadawodd fwlch ar ei ôl nas llenwir yn rhwydd.

Mae'r iaith yn rhwydd i'w darllen - heb fod yn nawddoglyd - gyda thoreth o eiriau cyfoethog.

Ond doedd hi ddim yn rhwydd i gyd i Gaerdydd.

Yn wyneb y duedd cynyddol i ganoli grym ac i danseilio awdurdod awdurdodau lleol trwy ganiatau i'r farchnad-rhydd cael rhwydd hynt i reoli, ni fydd adroddiadau ar yr iaith Gymraeg, ynddynt eu hunain yn sicrhau dyfodol i'r iaith.

Agor eich coesau led y pen i wneud pethau mor rhwydd â phosib.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi'n rhwydd iddo fo, ond dwi'n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o faterion eraill, gellir dadlau yn rhwydd fod y Gymraeg yn unigryw i Gymru.

Mae'n anodd i ni yn y dyddiau hyn o deithio rhwydd ac aml i bellafoedd daear, lawn sylweddoli gwefr y trip.

Gallwch dreulio hanner awr yn rhwydd yn eistedd mewn tŷ bwyta gwag cyn i'r 'waiter' ddod i holi beth hoffech chi ei gael i'w fwyta.

Ar yr un pryd, rhoes ei hyfforddiant mewn Lladin fynediad rhwydd iddo i drysorau byd clasurol Rhufain.

Mae Newell yn 30 heb fod mâs, Steve James wedi sgori 8, ac fe ddylse Morgannwg ennill yn ddigon rhwydd heddiw.

Roedd ar y dynion yma ei angen at ddibenion arbennig, roedd yn hollbwysig ei fod ar gael ar gyfer eu bwriadau, ac fel uchelswyddogion pob oes yn gweithredu yn enw eu gwlad rhoed rhwydd hynt iddynt fwrw ymlaen â'u cynlluniau.

'Dw i'n gweld dy fod ti a Cli%o'n ffrindie,' meddai Mrs Huws, 'a fydd hi ddim yn cymryd at bobl ddieithr yn rhwydd fel arfer; ond mae'n rhaid i ni fynd.

Symudai'n rhwydd, mesur, pellter yn gywir, cilio o flaen neu gydag ergyd a chadw ei ddwrn chwith yn rhyfeddol o gyson yn wyneb ei wrthwynebydd.

Mae rhyw ddawn arbennig yn perthyn iddo, mae o mor rhwydd.

Neu ar y llaw arall falla y bydd y rhai efo ewyrthod yn gynghorwyr yn Nom yn medru cael job yn rhwydd.

Y dyddiau hynny, nid y cwmni%au teledu ac ati a benderfynai werth ac apêl gornest ond y rhai oedd yn barod i dalu eu pres wrth y clwydi i weld gornest go iawn cyn bod sôn am borthi neb â gornestau rhwydd drwy fewnforio 'stiffs' i greu record a statws artiffisial i'r un ffefryn.

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Mae'n ffasiwn gan ffermwyr Sir Gaernarfon ddal tir ar Ynys Mon a rhwydd iawn yw symud defaid o un lle i'r llall, a phawb a'i gludiant ei hun.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Ac fe'm gwefreiddiwyd ganddi, yn y blynyddoedd ieuainc pan oedd teimladau'n rhedeg yn rhwydd.

Dechreuodd y sialens yn ddigon rhwydd, ond yn rownd yr un ar bymtheg ola, ro'n ni wedi'n dethol i deithio i'r Rhymni i wynebu'r tîm lleol.

"Mae ffydd, welwch chi%, meddai, "yn dod yn rhwydd i rai.

Rhwydd hynt iddynt.

Mae rhwydd hynt iddynt ddilyn eu diddordebau personol a chynnig syniadau.

Caniatewch imi yn awr, er mwyn cyfiawnhau fy safbwynt, drafod yn fyr un mater technegol eithaf rhwydd.

Yno dechreuai'r sgwrs, 'Beth oeddat ti'n meddwl o'r pregethwr ddoe?' a byddai'n rhwydd dweud os oedd yr hen saer wedi cael ei blesio ai peidio.

Byddai arfer mynaich y de-ddwyrain o dreulio amser yn Lloegr yn esbonio pa mor rhwydd y daw Kent, yn hytrach na Chaint, i feddwl ein hawdur, er iddo ddefnyddio'r ffurfiau Cymraeg Henffordd a Rhydychen.

Llwydda Shoned Jones i ddarlunio dirywiad perthynas a'r amheuon a'r twyll sy'n dod yn sgil y dirywiad yn fyw iawn gan osgoi'r melodrama all ddod i'r golwg mor rhwydd mewn stori fel hon.

Ysgrifennai'n rhwydd a gofalus gyda'i iaith yn raenus, gywir a heb fod yn rhy lenyddol a chymhleth.

Ar y pryd, edrychai yn beth digon rhwydd i ddarganfod y peirianwaith sylfaenol a reolai weithgaredd silia.

Yn y mwyafrif o ddosbarthiadau plant bach, ceir cyplysu clos ar iaith a phrofiad, ac enillir cymhwsedd llafar yn rhwydd.

Priodwedd arall sy'n cynnal y diddordeb yn y peli yma yw eu haffinedd am electronau - maent yn medru derbyn hyd at chwe electron, ac yna cael eu gwared yn rhwydd, fel rhyw 'sbwng electronau'.

Roedd hi'n amlwg, er mor fân oedd y print, fod y gwrachod yn gallu'i ddarllen yn rhwydd.