Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwyg

rhwyg

Yr oedd achosion eraill tros y rhwyg hefyd, fel anghydweld athrawiaethol rhwng Harris a Rowland a chred Harris fod Madam Sydney Griffith yn broffwydes.

Yn eu golwg hwy 'roedd y Diwygiad yn gyfrifol am achosi rhwyg difrifol yn yr Eglwys Gatholig.

Tu ol i'r holl broblemau hyn mae problem arall, y fwyaf sylfaenol o'r cwbwl yn fy nhŷb i, sef problem y Rhwyg Ieithyddol - problem yr iaith.

Ond mae cynlluniau'r corff rheoli Cymreig FAW wedi tynnu nyth cacwn i'w pennau ac wedi creu rhwyg o fewn rhengoedd y bêl gron.

Bu rhwyg o'r tu mewn i ran uchaf ei drowsus ers pythefnos heb iddo geisio rhoi tamaid o edau ar ei gyfyl.

Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.

Eleni dwi isio diolch i Golwg am gymryd un o gynigion y Cyf Cyff, ffonio pobl i ffeindio gwrthwynebiad, ac yna creu 'rhwyg' yng Nghymdeithas yr Iaith ar dudalennau hardd eu cylchgrawn nhw.

Os ydym i gyfannu'r rhwyg, mae'n amlwg fod yn rhaid ail-edrych ar y rhagdybiau.

Yr oedd Rowland cyn bo hir yn gweld colli Harris a cheisiodd gyfannu'r rhwyg.

Ac ef a'i fam, Dorothy Williams, a roddodd y tir i godi capel Pentretygwyn lle cartrefodd y blaid Galfinaidd ar ôl y rhwyg.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

Yr oedd nifer yn eu plith yng nghylch Northampton a ymawyddai am ddymchwelyd y drefn esgobyddol ac yr oedd perygl gwirioneddol i'r hyn a fu hyd yma'n anghydweld y tu mewn i gorlan yr Eglwys droi'n rhwyg a yrrai rai i ymneilltuo ohoni.

Erys y clawdd hwn heddiw a adnabyddir fel Embankment yn dystiolaeth o ddyfeisgarwch yr arloeswyr hyn i gyrraedd nod arbennig ond fe fu'r defnydd ohono yn achos rhwyg enbyd rhwng y ddau bartner.

Rhwyg Rhoddai trefniadaeth fel hon gyfle i ddyn cryf ymarfer meistrolaeth tros y mudiad.

Ond prysuraf i ddweud mai'r rhwyg rhyfedd hwn oedd un peth a wnaeth Gymry tanbaid o nifer fawr o fyfyrwyr y cyfnod hwnnw.