Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwygo

rhwygo

Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.

Cofio wedyn ei gyfarfod yn ei swyddfa ddiaddurn yn Llundain ac yntau'n eistedd mewn cadair â'i lledr wedi rhwygo.

Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.

Roedd eraill yn rhwygo dail pluog o ganghennau milddail y dþr, a'u cludo yn eu cegau i'r adeiladwyr.

Dro arall fe dorrodd i mewn i'w swyddfa drwy'r ffenest, gwasgaru ei ffeiliau, a rhwygo baner Jac yr Undeb oedd yn hongian ar y wal.

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Doedd dim i dynnu hiraeth arni yma - doedd dim yma i godi atgofion a fyddai'n rhwygo'i chalon.

Mi fedra' i 'i rhwygo hi cystal â neb yn y fan yma ond nid ar y bocs chwarae teg .

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Roeddem ar Iwybr y rhewlif fu'n crafu a rhwygo'i ffordd yn ara deg o Gwm Idwal i foddi ei hun yn y brif rewlif yn Nant Ffrancon.

Bu bron iddyn nhw â rhwygo'i ddillad wrth geisio eu dynnu i mewn i'r tŷ.

A sylwer yn neilltuol ar gryfder y ferf yn llinell olaf y pennill hwn: rhaid 'rhwygo'r gwanwyn pêr' o bridd y ddaear, fel pe bai honno eisiau gorwedd yn ddiffrwyth yn nhrymder a syrthni ei gaeaf.

Gwelodd fod un ddraig wedi cael ei rhwygo yn ei hanner ac anadlai'r llall yn drwm gan grafangu'r tir oedd dan bwll o waed poeth.

Hanfod arall yw gwrth-ymosod a rhwygo amddiffyn, nid unwaith ond dwywaith neu dair os taw dynar angen.

Yna teimlodd ei freichiau'n cael eu rhwygo oddi ar wddf y llipryn o'i flaen.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Gyda hyny dyma'r rhan gyntaf o'r fyddin yn marchio i'r golwg - yn cael ei blaenori gan hen flag - hen flag ag oedd wedi gweled caledi, wedi ei rhwygo gan fwledi nes yr oedd yn rags.

A beth wnaeth e, er mwyn dangos nad yw dillad yn cyfri dim, ond rhwygo'r siwt yn y fan a'r lle.

Y mae Cymru heddiw wedi ei rhwygo'n ddwy ar y Suliau, Cymru Gymraeg a Chymru Saesneg.

Teimlai'i glustie fel 'taen nhw bron 'di rhwygo oddi ar 'i benglog.

Uwchben y silff ben tân hongiai darlun olew mawr ac uwchben y darlun roedd llumanau gwŷr meirch, naill ai wedi eu rhwygo gan fwled neu eu bwyta gan wyfyn, ar ffurf croes mewn ffrâm wydr.

Yr oedd yn barod i ymuno mewn gwrthryfel yn eu herbyn, ymosod arnynt a'u curo, rhwygo'r dorau, chwilfriwio'r ffenestri, gosod y carchar ar dân a dianc.

Tynnodd ei hun i fyny a chlywed ei fantell yn rhwygo ond roedd gweld golau dydd o'i flaen yn rhoi hwb newydd iddo.