Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwystr

rhwystr

DAFYDD: ...yr adegau y mae angen torri'r gyfraith ydi pan mae'r gyfraith yn rhwystr; pan mae'r gyfraith yn erbyn.

Pwrpas y cyfan oedd herio'r holl gamweddau a oedd yn rhwystr i'r Iddewon gyflawni eu priod genhadaeth yn y byd, datguddio daioni Duw nid trwy eiriau'n unig ond trwy lafur enaid.

Prin, mae'n wir, yw'r wybodaeth fywgraffyddol fanwl sydd gennym amdano a'i waith, ond nid yw hynny'n rhwystr inni werthfawrogi ei gyfraniad.

Mae'n anodd caru dau sy'n methu cyd-weld - a gall y gwaed coch cyfan fod yn rhwystr.

Eto i gyd, nid oedd hynny'n rhwystr i'r ferch gyffredin ymuniaethu â'r santes.

Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllheli% yn gywir.

Er bod cyfyngiadau'r offer nofio tanddwr oedd ar gael bryd hynny yn rhwystr i ddatblygiad y pwnc ar y dechrau ffynnodd pan gyflwynwyd offer anadlu cylched agored, yr Aqualung.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

Mae clwb Lazio wedi dweud na fyddan nhw'n rhwystr os yw Eriksson yn dymuno bid yn rheolwr tîm pêl-droed Lloegr.

Os bydd dyn cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd hwnnw farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei bechod, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Roedd pawb yn barod am saith i fynd adref er i beth rhwystr ddigwydd oherwydd fod rhai o'r bechgyn wedi eu dal yn ceisio dwyn bwrdd o'r dafarn a'i gario ar y bws.

'Anhawster' oedd y Gymraeg, rhwystr i gyfathrebu, gan gadw dynion yn ôl rhag gwybodaeth o'r byd a'r betws.

Tybed a oes modd i'r sefyllfa fod yn rhwystr i lwyddiant yr Achos mewn llawer lle?

Ar y llaw arall, ni ddyliai technoleg fod yn rhwystr lle mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn.

Ddyle'r Rhymni ddim bod yn rhwystr i'r tîm oedd wedi gorchfygu grym Seland Newydd ychydig fisoedd ynghynt!

Yn achlysurol byddai angen symud darn mawr o graig neu glogvyn ohenvydd ei fod yn rhy beryglus i'r dynion weithio odano, neu am ei fod yn rhwystr i ddatblygiad y ponciau.

Oherwydd i garfan arall o bobl greu rhwystr ar groesfan Hen Gastell yn y pellter, arafodd y trên.

Post o wenithfaen solet yn rhedeg uwy lechfaen da yw'r 'Negro' (y mae yno o hyd, ac yno y bydd bellach.) Dylesid fod wedi ei symud er dechrau'r ganrif gan iddo fod yn rhwystr i ddatblygu o leiaf bum ponc o lechfaen ardderchog, sef Califomia, Pen Diffwys, Ponc Mosys, New York a'r Bonc Fawr.

Ysywaeth, nid oedd i dderbyn unrhyw flaenoriaeth fyddai'n rhwystr ar lwybr un o brosiectau'r Cyngor ei hun.

* Gall gwybodaeth ysgrifenedig achosi rhwystr os defnyddir iaith gymhleth neu jargon.

Er mai'r Brenin, ar un olwg, yw'r darn pwysicaf ar y bwrdd - fel darn i ymosod ac amddiffyn mae'n ddiwerth bron, a thra bo'n sefyll rhwng y ddau Gastell yn y rhes gefn, nid yw'n ddim ond rhwystr ichi ddefnyddio eich Cestyll yn effeithiol.

Ac oherwydd y tywyllwch a ddeddfwyd fel rhwystr i awyrennau bomio'r gelyn, ni fu'n bosibl i rai o hoelion wyth yr enwad ddod yno i roi eu sêl a'u bendith ar weithgareddau'r dathliad.

a oedd ffurf y deunyddiau, lliw ac yn y blaen yn rhwystr i rai disgyblion ?

Ond sut?" "Yr ewyrth ydi'r rhwystr, ynte?