Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwystredig

rhwystredig

Maent yn byw bywyd gwag rhwystredig yn y dref mewn cymdeithas lle nad oes iddynt swyddogaeth.

Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy'n teimlo'n gyflawn ynddo'i hun gan adael y darllenydd felly'n sychedu am fwy; yn rhwystredig, mae'n angenrheidiol darllen ymlaen.

Yn ystod y dyddiau cynnar hynny, pan oedd Morfudd yn newydd-ddyfodiad, ac enigma'r dro%ell yn sbeis ar dafodau'r fro, awgrymodd un o'r rhai mwy gweledigaethol ymhlith y pentrefwyr unwaith mai rhwystredig oedd yr hen wraig, ac mai chwant rywiol a'i gyrrai i nyddu'n wyllt bob dydd!

Yn wir, mae'r neges yn glir ar ddiwedd pob stori fwy neu lai, gan fodloni'r darllenydd am ei fod yn derbyn atebion ac nad yw'n cael ei adael yn rhwystredig.

Mae hyn eto'n gadael y darllenydd yn rhwystredig a'r unig ateb yw darllen ymlaen gan obeithio am stori fer hollol gyflawn sydd ddim am chwarae triciau bfwriadol â'r darllenydd.

Parhaodd y streic am dair blynedd chwerw a rhwystredig.

Ond wrth i Saddam anelu ei ddicter mwyaf at Israel, gellid disgwyl y byddai carfan helaeth o Balestiniaid rhwystredig yn edrych arno fel achubwr.

'Mae'n rhwystredig iawn i ni fod hyn wedi digwydd i ni.