Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhybuddio

rhybuddio

Fwy nag unwaith fe'i clywais yn treulio dros awr heb nodyn o'i flaen yn esbonio, yn dadansoddi, yn rhybuddio ac yn canmol.

Mae uchel swyddogion y llywodraeth wedi rhybuddio fod y wlad yn dychwelwyd i'r cyflwr roedd ynddi yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac mae hyd yn oed Fidel, yn ôl nifer o ffynonellau, wedi mynegi ei bryder am y dyfodol.

Hwnnw'n bodio'n ofalus, holi, a rhybuddio cyn gwasgu'n drwm mewn mannau arbennig.

Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith Gymraeg fod yn agos iawn.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Cracyr o nofel yw Noson yr Heliwr er bod angen rhybuddio nad yw'n llyfr i'w ddarllen os oes gynnych chi nerfau gwael neu galon wan.

Ni chafodd neb y gansen ond ein rhybuddio i beidio mynd at y capel wedyn, ond mae'n siwr fod clustia 'rhen Robaits yn llosgi.

Cawn Kate Roberts, yn ei beirniadaeth, yn eu rhybuddio i gofio y gallai gormod ohonynt dagu'r arddull a rhwystro'r darllenydd rhag

Mae Undeb y Peirianwyr yn rhybuddio na all hyn barhau a bod rhaid i Brydain ymuno â chynllun arian yr ewro.

Ond cyn pen dim roedd Portiwgal wedi taro nôl gydag ergyd wych gan Luis Figo - y chwaraewr yr oedd Bobby Robson wedi rhybuddio Lloegr y byddain rhaid i Loegr ei ffrwyno.

Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.

Neil Kinnock yn rhybuddio cynhadledd y Blaid Lafur fod rhaid ailfeddwl ynghylch polisïau.

Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Ac mae coch yn rhybuddio fod bywyd y plentyn yn y fantol am ei fod mor wan.

Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser.

Wrth i bobol fynd ati i baratoi ar gyfer eu gwyliau haf mae dermatolegwyr yn rhybuddio pobol am beryglon torheulo.

'Wedyn, mi wnaethon ni esbonio be oeddan ni isio iddyn nhw neud, a'u rhybuddio y byddan nhw'n cael eu gosod mewn rhwymau i newynu, tasan nhw'n gwrthod, a'r benywod yn cael eu lladd.

O'r adeg yr ymunodd hi â'r cwmni fel clerc roedd Robin wedi ei rhybuddio droeon rhag ymwneud yn rhy emosiynol ag achos cyfreithiol.

Mae Rheol XV yn eu rhybuddio i beidio â thrafod eiddo wedi ei smyglo ac y mae Rheol XVI yn trafod ymddygiad tuag at yr awdurdodau gwladol.

Ac fel y mae pobol yr AA neu'r RAC yn eich rhybuddio am beryglon ar ffordd, felly y gallech rybuddio pobol fod yna berygl iddynt gwrdd â'i Harglwydd ar ambell ffordd, fel yr un i i Emaus, neu'r ffordd honno yr âi yr eunuch arni yn ôl i Ethiopia.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Roedd ei thad-cu wedi ei rhybuddio fod porthmyn tueddu i orliwio pan fyddent yn adrodd newyddion.

A dyma efallai bwrpas y straeon hyn, sef cadarnhau rhai o gredoau sylfaenol ein cymdeithas, ac i'n rhybuddio rhag crwydro ymhell oddi ar lwybrau derbyniol ein cyfoedion.

Hefyd y ffaith fod y meddyg wedi rhybuddio na ddylai Pengwern gysgu ar ei ben ei hun rhag ofn iddo gael trawiad ar y galon.

Diau na all Ms Clwyd gysgu'n dawel yn y sicrwydd ei bod hi wedi ein rhybuddio ni am gamweddau ein gweithredoedd.

Yr hanes yw i dad Harris ei ffonio hi y noson cyn eu priodas i'w rhybuddio, gymaint o sgiamp oedd hi'n mynd i'w briodi ai chynghori i newid ei meddwl.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.

Y Pab yn rhybuddio y gallai teledu fygwth bywyd teuluol.

Roedd yn rhaid rhybuddio ei gyfeillion, dod o hyd i'r llyfrau ac arwain y gŵr ifanc atynt, a hyn i gyd cyn toriad y wawr.

Rydym yn rhybuddio yn arbennig yn erbyn cael gor-gynrychiolaeth o fuddiannau busnes eilradd.

Gosodwyd y brotest i fyny ar fyrddau hysbysebu'r colegau, er mwyn rhybuddio'r myfyrwyr rhag y Traethawd.

Ef, yn anad yr un o'r Piwritaniaid cynnar, a roes y mynegiant mwyaf ysgytiol i'r argyhoeddiad hwn:- Rwi'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb.

Er iddo eu rhybuddio, pallu gwrando a wnaethant, a gwelodd yntau y byddai eisiau gwyrth i'w darbwyllo i droi at Grist oddi wrth eu hen arferion.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd ef yn marw am ei bechod, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

Lyfai'r ast strae ei phlentyn yn feddiaddol, ei llygaid yn rhybuddio dieithriaid i gadw draw.

Mae rheolwr cyffredinol Chelsea, Gwyn Williams, wedi rhybuddio unrhyw gefnogwyr Lloegr sydd wediu dal gan y plismyn ym Mrwsel a Charleroi na fydd am eu gweld yn dod i gemau Chelsea eto.

Ond mae Mr Barak wedi rhybuddio y bydd ei fyddin yn taro yn ôl os bydd unrhyw ymosodiadau ar Ogledd Israel.

Rwy'i am eich rhybuddio chi - mae'r Proffesor yn - wel - dipyn yn wyllt 'i dymer weithie.

Dylid rhybuddio yn erbyn hyn.