Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhybuddion

rhybuddion

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, i roddi rhybuddion gorfodaeth dan y deddfau cynllunio ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad marchnad awyr agored (ar y Sul neu unrhyw ddiwrnod arall) ac i erlyn mewn unrhyw achos yn codi o'r rhybuddion hynny.

Sylwodd hefyd fod ffens uchel o weier bigog o gwmpas y lle i gyd, a rhybuddion Saesneg "PROHIBITED AREA" - "KEEP OUT!" ymhobman.

Yng ngeiriau un o asiantau'r Cenhedloedd Unedig, 'Mae arbenigwyr o'r farn mai'r system hon yw'r un fwyaf cywir o'i bath yn y Trydydd Byd.' Y broblem, dro ar ôl tro, oedd bod gweddill y byd yn gwrthod cymryd sylw digonol o'r rhybuddion.

Er gwaethaf rhybuddion teulu a ffrindiau, myn Gwenan aros efo Dyfan ac mae'r diwedd trist yn anochel.

Yr un rhybuddion oedd gan Mam bob wythnos yn ddi-ffael, fel petai o'n debyg o anghofio ac yntau wedi bod yn mynd â Mali i'r parc bob bore Sadwrn oddi ar ddechrau'r haf.

Trefniant i reoli posteri a rhybuddion a welir wedi eu gosod ar bolion trydan a.y.b.

Er gwaethaf rhybuddion Robin, doedd Rhian ddim wedi rhag-weld pa mor gyndyn y byddai'r sefydliad i gyfaddef nad oedd cyfiawnder.