Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyddion

rhyddion

Ni allai'r ysgwieriaid godi ond ar draul y mân wŷr rhyddion ar y naill law a'r caethion ar y llaw arall (er i rai o'r rheini lwyddo i oresgyn pob anhawster a thyfu'n ysgwieriaid eu hunain).

Cefais wahoddiad gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr i fynd i Strasbourg i weld llysoedd a senedd-dai Ewrop.

Er mor annhebygol ei bod hi'n aelod o'r Seiri Rhyddion yr oedd hi'n aelod o Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol a fu'n gyfrifol am wneud yr argymhelliad a doedd neb yng Nghymru - a dim ond un ffigur uchel yn y Seiri Rhyddion yn Llundain - wedi cwyno.

Tebyg mai o blith y gwŷr rhyddion y dôi'r rhan fwyaf o'r offeiriaid plwyf.

Bu gwasanaeth fore'r Nadolig yn Horeb pryd y cymerwyd rhan gan aelodau o'r Eglwysi Rhyddion.

O safbwynt arall gellir dweud fod mwyafrif gweinidogion yr Eglwysi Rhyddion yn heddychwyr a'u bod yn mynegi eu safbwynt o bryd i'w gilydd mewn pregeth, anerchiad neu erthygl.

Yn ddamcaniaethol yr oedd gwahaniaeth pendant rhwng y boblogaeth Seisnig gymharol fechan, a oedd wedi'i sefydlu yn y bwrdeistrefi ac ar y tir gwaelod (yn enwedig yn y Mers), a'r boblogaeth Gymreig, yn wŷr rhyddion ac yn gaethion, a oedd yn trin y tir a oedd yn weddill.

Cwynodd William Graham, Ceidwadwr, bod disgwyl i Aelodau sy'n perthyn i fath arall o seiri - y Seiri Rhyddion - gyhoeddi hynny yn rhestr eu diddordebau.

Canlyniad hyn fu cyfodi o blith y gwŷr rhyddion Cymreig, nad oedd ganddynt at ei gilydd ond ychydig aceri ar eu helw er gwaethaf eu hachau urddasol, ddosbarth o ysgwieriaid llawer mwy cefnog, a elwir yn aml yn uchelwyr.

Dyna lle maent yn hongian ar y rhaff, ac yn rhoi'r trosol o dan y cerrig rhyddion hyn a'u bwrw i lawr.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Ar ôl i'r pylors ddiasbedain yn y graig a'r cerrig rhyddion, ychydig feddyliai y dynion hynny beth a pha fodd yr oedd y pylor Ysbrydol yn ymyl ffrwydro.