Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyfedd

rhyfedd

Nid rhyfedd ychwaith i'r beirdd gydnabod bod pwyslais ar achau a disgynyddiaeth yn nodwedd hanfodol angenrheidiol yn eu cerddi.

Edrychai'r Doctor Ymennydd arnaf yn reit slei: ac efallai ei fod yn meddwl fod pawb yn mynd yn rhyfedd ar saffari.

Dim rhyfedd fod y setiwrs yn symud mor aml.

Rhyfedd meddwl am y Fyddin Goch yn gorymdeithio ar hyd y Calea Victoriei yn Bwcarest.

Daeth â llawer o atgofion ac o straeon yn ôl i'r cof, a nifer o ddywediadau rhyfedd, a'r ffordd wahanol o edrych ar bethau ddaru mi ddod ar eu traws pan oeddwn yno.

Nid rhyfedd felly fy mod i'n amheus i'r eithaf heddiw o'r criw diwinyddol yma sydd mor uchel eu cloch ar i ni gofleidio'r myth a'i chusanu, ac ymbriodi â hi, a chodi teulu gyda hi.

`Does dim rhyfedd bod y cwn yn llawn cyffro,' meddai'r sarsiant.

Yr adeg hon, yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, yr oedd Saesneg yn dechrau treiddio i Abergafenni, ar ffin ddwyreiniol Gwent, er mai digon prin a rhyfedd ydoedd.

Doedd dim rhyfedd i Ifan Jones wneud cymaint o stŵr yn ei chylch.

Mae hyn yn rhyfedd, oherwydd fod y rhan fwyaf o bobl yn byw yn y dref a dim ond tri y cant yn cael bywoliaeth o'r tir.

Mae'n rhyfedd gennyf sut y llwyddodd aml i saer coed i ddod i ben â'r gwaith cystal a heb ganddo ond ambell i erfyn priodol i'w gynorthwyo.

Daeth rhyw nerth rhyfedd drosti.

.?" Yn rhyfedd iawn, ar ôl gweld rhyw bump cês, daeth rhyw deimlad annisgwyl o ddifaterwch, ac yn y pen draw, syrffed, drosof.

Roedd llawer o anifeiliaid bychan rhyfedd, hanner llygoden fawr a chwningen yn torheulo yn yr heulwen a ddangoson nhw ddim ofn pan ddaeth pobl yn agos atynt.

Yng ngwaith Llwyd y mae'r mynegi ei hun yn rhyfedd: yr ymbilio hyf, y tawtolegu hir, y trosiadu a'r cyffelybu a'r personoli, yr aml ddefnydd o similiter cadens, repetitio, contrarium, expolitio, lamentatio, sermocinatio, - y mae'r oll mor syn, mor dynn, mor daer.

Yn ol arlunwyr y Canol Oesoedd, hen ddynionach crebachlyd oedd y cemegwyr cyntaf, yn cymysgu rhyw gawl rhyfedd o ymennydd ystlumod, llygaid brogaod a thafodau madfall mewn crochan enfawr, gan fwmian geiriau swyn dieithr.

Rhyfedd y cyd-ddigwyddiad.

Mae'n rhyfedd, beth all digwydd tra bod chi'n golchi'r llestri.

A'r dyrnodau wedi dileu'r meddyliau a'r atgofion rhyfedd.

Mae yna bethau rhyfedd wedi digwydd i bobol ar y ffordd.

Sŵn crafu bach rhyfedd oedd o.'

Rhyfedd na fyddai teulu a gafodd gymaint o brofiad o hynny wedi dysgu'r wers honno ac wedi bod yn llai parod i agor ei ddrysau fel y gwnaed yr wythnos diwethaf.

Condemniwyd y mynegiant astrus a thywyll gan y beirniaid, er nad yw mor astrus â hynny; ond yr oedd yn awdl anghelfydd a chymysglyd ar brydiau, ac nid rhyfedd i'r bardd ei hailwampio yn ddiweddarach.

'Doedd o ddim rhyfedd efallai fod yna ffin go bendant ar bwysau'r llwyth a ganiateid yn y ferfa honno.

Bu Marcus Trescothick yn rhyfedd o anlwcus.

Nid rhyfedd i hynafiaethwyr megis John Jones, deon Bangor, a Humphrey Foulkes droi ato am oleuni gan ei ystyried 'the best Antiquary in these parts'.

Mi rydw i wedi bod yn gweithio oriau rhyfedd yn ddiweddar yn ogystal â cheisio paratoi ar gyfer y Dolig.

Nid aeth dewin yn agos at broflenni Samhain - nofel ffantasi sy'n fwrlwm o ddwiniaid a chreaduriaid rhyfedd a chymeriadau - ambell i necromanser, hanner-ore a chewri wedi eu gwneud o bridd sy'n cymysgu gyda'r camgymeriadau gosodi.

Wrth feddwl, 'roedd yna eraill wrth gwrs o blith aelodau'r capel yn yr un cyflwr â mi, yn rhyfedd iawn 'doeddyn nhw ddim i gyd yn gyfoedion a mi.

'Doedd hynny ddim yn rhyfedd gan 'i fod o wedi eistedd ar fy het i nes 'roedd hi'n fflat fel crempog.

Cadarnheir yr agweddau gonest at bortreadu pechod a fynegwyd yn 'Llythyr ynghylch Catholigiaeth' a Williams Pantycelyn, ond yn rhyfedd iawn, nid awgrymir o gwbl fod unrhyw beth gwenwynig yn perthyn i ramantiaeth.

Roedd gan rai ceffylau ryw allu rhyfedd i synhwyro neu i 'gyfrif' y nifer o wagenni a roid iddynt i'w tynnu.

Ni chlywswn ef o'r blaen, a daeth iasau rhyfedd drosof wrth wrando ar ddyn dall yn claddu menyw ifanc.

Mae'n beth rhyfedd, ond siwr o fod yn wir, fod cymeriadau yr ardal ble magwyd chi i weld yn llawer mwy diddorol na'r cymeriadau rydych yn eu cyfarfod heddiw.

Edrychai arnaf yn rhyfedd cyn troi i fynd i'r gegin gefn fel pe bai arni ofn i mi ei dilyn ond er mod i dest a marw eisio cael sbec ar y dynion yn y parlwr, ymateliais.

Fel y deuai'n nes, clywai ddau o'r cŵn yn udo'n rhyfedd ac yn ofnus.

Ac wrth feddwl am hynny, mae o'n beth rhyfedd, yn 'tydi, fel mae ambell un yn newid pan ddaw o i mewn i'r capel?

Nid rhyfedd felly i Sion ap Hywel Gwyn, car arall eto i'r abad hwn, ganu gan gwyno nad oedd modd cael y croeso arferol yn y fynachlog pan oedd Iorwerth yno, ac y dylid ei anfon ymaith.

"Y John Preis na, dyna'r cena agorodd y giât." Ond cafodd Edward ras rhyfedd i ddal rhag ei ysgwyd yn reit dda.

Mae rhywbeth rhyfedd iawn yn hyn i gyd.

Ac yn sydyn, popeth yn sefydlogi ac yn caledu, a'r goleuni rhyfedd yn llithro i ffwrdd.

Fel roeddwn i'n dweud, cyfrwng sarhad a sen rhyfedd iawn - gwisgo megis mewn anrhydedd enw eich gelyn.

Yn rhyfedd iawn, mae i ginseng hefyd rinwedd gwrthgyferbyniol; mae natur cyffur lliniaru ynddo.

Mae'n rhyfedd fel rydyn ni i gyd yn awchu ac yn sychedu am y pethau rydyn ni yn eu galw yn gyfiawnder a chyfartaledd.

Daeth yn enwog ymhlith llwythau eraill a thrwy Cyrenaica bwygilydd cyrchid at y gof newydd a rhyfedd hwn, a thelid yn dda am ei waith.

Tua diwedd y bore fe glywsom sŵn rhyfedd, fel pe bai neidr yn chwythu, ac aeth y ddau ohonom i chwilio o ble'r oedd yn dod.

Ar ôl iddi fynd yn hwyr fe ddaeth y cyfarfod rhyfedd hwn i ben.

A wyddoch chi be, mae'n rhyfedd fel y mae pethau bychain yn mynd yn bethau mawrion pan fônt yn torri þ pe na bai ond un iod fechan þ ar undonedd a gorgyffredinolrwydd bywyd dyddiol dyn ar y Dôl.

Roedden ni wedi clywed llawer o straeon rhyfedd am y meddyg yma, ac fel y byddai'n chwarae triciau ar y patients er mwyn cael tipyn o sbort.

Doedd hi ddim yn rhyfedd mai blaenwyr sgoriodd y ceisiau i gyd.

Daeth dieithryn rhyfedd yno a dweud wrth y cyngor y gallai ef achub y dref trwy arwain y llygod oddi yno wrth ganu ei bib.

"Oes gen ti dipyn o'r hen faw hen faco 'na, Edward?" meddai'r twmpath, a phwy oedd yno ond John Preis, yr hen gerddwr a'r cymeriad rhyfedd o Gapel Uchaf, Clynnog.

'Oes rhywbeth rhyfedd wedi digwydd yma, o gwbl?' gofynnodd.

Cafwyd canlyniad annisgwyl - rhyfedd, yn wir - ar Barc Eugene Cross neithiwr.

Rhyfedd yw'r tebygrwydd yn hyn o beth rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

roedd pen y boncen yn lle rhyfedd i gyfarfod a neb.

Dim rhyfedd i Ferched y Wawr fynd eu ffordd eu hunain.

Roedd pethau rhyfedd yn gwibio drwy fy mhen.

Parhâi pobol i fyw wrth y stablau, ac ymhen blynyddoedd lawer wedyn dyma un yn digwydd sôn wrth Bill Parry am ddigwyddiad rhyfedd yno - eu bod wedi'u deffro'n ddiweddar gan oleuadau dros y lle, a hithau n ganol nos.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

Yn ddigon rhyfedd, mi ddechreuais i ddarllen y llyfr mewn meddygfa - a chas gennyf fynd i'r fan honno.

Ond yr hyn sy'n rhyfedd yw fod y broses yn digwydd flynyddoedd meithion yn ddiweddarach.

'Roedd yr arlliw o dynerwch wedi diflannu a rhyw galedwch rhyfedd yn ei lygaid.

'William Davies' oedd enw tad fy nhad, ac y mae gennyf gymysgedd rhyfedd o atgofion amdano.

gweddi%ais am gael bod yn un o'r merlod ar fynydd yr oerfa am byth byddai'n andros o oer yn y gaea wrth gwrs meddai Jo gan chwerthin rhyfedd bod ei lais y munud hwnnw fel cloch

Er iddo gael cansen yn aml, doedd dim rhyfedd mai fo oedd yr hogyn mwyaf poblogaidd yn y lle.

Does dim rhyfedd ei fod wedi ennill medalau DSO a DFC" "Mae o'n gallu arwain ei sgwadron fel un yn hela llwynog.

Mae'n rhyfedd fel mae rhywun yn synhwyro rhai pethe--fe wnes i dderbyn sawl ergyd yn ystod 'y ngyrfa, ond braidd byth yn teimlo y bydde'n rhaid gadael y maes.

Ac yn awr dyma fe'n gorwedd ar ganol yr heol, ei ben yn ysgafn gan ryw syrthni rhyfedd.

Ymdeimlodd llawer ag unigedd rhyfedd a thrychinebus Cobain.

Diwrnod rhyfedd oedd y diwrnod yr aeth Wiliam i ffwrdd, yn y Ffridd Felen.

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Mae yma þyr i'r hen Elis Owen yn fyw heddiw, nid rhyfedd mai ef, bellach yw yr arbennigwr ar gneifio.

Yr oedd yn gyfnod pan oedd chwyddiant yn rhyw lusgo yn araf o un flwyddyn i'r llall, bron yn ddisylw, a 'does rhyfedd felly fod y rhan fwyaf ohonom yn dal i ddioddef gan ryw 'rith ariannol'.

Nid rhyfedd felly y gwelir mwy o ysgolion a phrifysgolion wedi'u hagor yn Ewrop y cyfnod.

Peth rhyfedd na fuasai hi'n gwisgo staes i gelu peth ar y bloneg yna a bronglwm i godi peth ar ei bronnau.

'Kirkley ma 'na rywbeth rhyfedd iawn ynglŷn â hyn.

Peth rhyfedd yw cyd-ddigwyddiad.

Mae carchar yn lle rhyfedd.

Nid rhyfedd i feirdd megis Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal roi cymaint pwyslais ar y 'Tŷ bonedd (a'r) Tŷ rhywiog' ynghyd â'r 'beunydd hil bonedd helaeth'.

Dim rhyfedd nad oedd am foddran â neb, a mynd off ar 'i hwc 'i hunan.

Oherwydd nid canlyniad rhyw un digwyddiad rhyfedd a phrin oedd y greadigaeth Ddaearol, ond, yn hytrach, ganlyniad anochel y sefyllfa gemegol a ffisegol oedd yn bod.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Yn rhyfedd, dywedai iddo deimlo'n agos at ei famgu ar hyd ei oes ar y môr.

.' Toc, fe beidiodd y sisialu rhyfedd o'r tu ôl, ac wele'r meddyg a'i stethosgop yn ochrgamu gan ymddangos o'r tu blaen imi.

Y mae disgrifiad Lingen o nos Sadwrn a nos Sul ym Merthyr yn rhyfedd o debyg yn ei hanfodion i ddisgrifiad D J Williams o'r nosau hynny yn Ferndale.

Dim rhyfedd, felly, ein bod ni'n barotach i wylo.

Deffolais yn sydyn a diseremoni gan glywed rhyw ganu cloch rhyfedd yn fy nghlust.

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

Clywodd y ferch yn gwneud sŵn rhyfedd wrth siglo'n ôl a blaen.

Yna, yn rhyfedd iawn, aeth y tafodau'n dawedog, a theimlodd pawb rhyw gywilydd o fod wedi chwerthin am ben un na wnâi ddim byd gwaeth na chadw iddi hi ei hun.

Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.

Dyna oedd yr esboniad am dawelwch rhyfedd lona !

Roedd cystadlaethau llefaru a chanu yn Gymraeg a Sbaeneg. Roedd hyn yn rhyfedd - roedd llawer mwy o angerdd yn y canu Cymraeg nag yn canu Sbaenaidd.

Nid rhyfedd felly iddo ddod i gael ei ddefnyddio am waith aberth Crist yn prynu dyn a'i gymodi â Duw.

Mae 'na rywbeth rhyfedd yn mynd 'mlaen.

Yna'n sydyn clywodd sŵn chwythu rhyfedd yn y tonnau y tu ôl iddo.

Dechreuodd pethau fynd yn flêr, ac yng nghanol eu perfformiad o Ty ar y Mynydd - un o'u caneuon mwyaf poblogaidd yn rhyfedd iawn - penderfynodd aelodau Maharishi mai doeth fyddai iddynt adael y llwyfan.