Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyfeddodd

rhyfeddodd

Rhythodd i fyw llygad y gath fel y gwnaeth filoedd o weithiau o'r blaen a rhyfeddodd unwaith yn rhagor at ddawn gynnil y gŵr o'r Eidal.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.