Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyfeloedd

rhyfeloedd

Yr oedd ef o'r farn bendant pe bai pobl yn adrlabod ei gilydd yn iawn - yna ni fyddai rhyfeloedd bellach yn bosibl.

ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Cyfnod penllanw'r pregethu teithiol hwn oedd y blynyddoedd o ddiwedd rhyfeloedd Napoleon hyd agoriad y rheilffyrdd ym mhedwardegau'r ganrif.

Wedyn mae yna beth wmbredd o hanes digwyddiadau pwysig, yn rhyfeloedd a digwygiadau a mudiadau o bob math trwy holl orllewin Ewrop a llawer o'r hyn a elwir yn fyd gwareiddiedig lle mae'r bobl sydd wedi dysgu lladd ei gilydd yn byw o'u cymharu a'r darnau lle mae'r bobol sy'n bwyta'i gilydd yn byw.

Ar ôl y pla a'r rhyfeloedd, doedd dim o'u hangen.

Eglwysig iawn oedd gogwydd uchelwyr Llyn yn y blynyddoedd hyd at y Rhyfeloedd Cartref.

Yn ystod y rhyfeloedd hyn yn y bymthegfed ganrif y datblygodd cenedlaetholdeb Seisnig.

Yn y modd hwn, fel yn rhyfeloedd Napoleon a rhai ein canrif ni, a'r Cymry yn falch o'u campau mewn cydweithrediad â'r Saeson, fe'u tynnwyd yn nes atynt; er i'r Cymry gartref barhau i deimlo yn o fileinig o wrth-Seisnig, fel y gwelir yng ngwaith y beirdd.

Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Amhosibl yw anwybyddu, i enwi ond ychydig, y sychder a'r rhyfeloedd yn Eritrea, Ethiopia, Swdan a Somalia; trychinebau Bopal, yr Exon Valdes a'r Braer, dylanwad damweiniau Chernobyl a Three Mile Island, y twll yn yr haenen Osôn, coedwigoedd diflanedig Brasil a Bafaria, llifogydd Bangladesh ac felly ymlaen.

Ymunodd â Milita Sir Gaernarfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf a dyma ddechrau cyfnod o deithio fel un o filwyr byddin Dug Wellington yn ystod rhyfeloedd Napoleon.

Fe fu rhyfeloedd yn allweddol o'r dechrau yn nhwf y wasg; fe fuon nhw'n fwy allweddol fyth yn hanes gohebu tramor.

Cafodd Piwritaniaeth gefnogwyr brwd yn Llyn yn ystod y Rhyfeloedd cartref.