Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyngddi

rhyngddi

Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.

O safbwynt daearyddol nid oes lawer o ddewis rhyngddi a'r lleill.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Tra oeddent yn byw yng Nghaerllion, ac yn fuan wedi pen blwydd Mary yn un- ar-hugain, bu cweryl ffyrnig rhyngddi hi a'i gŵr, ac aeth hi a'r pedwar plentyn yn ôl at ei mam i Birmingham.

A dyna sut y cafwyd cyfundrefn addysg maes o law nad oedd wahaniaeth rhyngddi a chyfundrefn addysg Lloegr.

Yn ystod ei chyfnod yn y garej datblygodd perthynas agos iawn rhyngddi hi a Derek.

O dipyn i beth 'roedd ei bywyd yn parchuso a bu cryn ffrwgwd rhyngddi hi a Glan wrth i Mrs Mac geisio mynd yn ôl i weithio yn y busnes sgrap.

I Begw, mae'r eira sy'n ymestyn i'r pellter 'fel crempog fawr a lot o dyllau ynddi a chyllell ddur las rhyngddi a Sir Fôn' (Te yn y Grug).

Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf.