Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyngddyn

rhyngddyn

Cwympodd Maureen mewn cariad gyda Haydn ac er na ddigwyddodd dim byd rhyngddyn nhw, 'roedd Haydn yn rhan o'r rheswm dros fethiant priodas Denzil a Maureen.

Mi fydda aelodau eraill llys Montezuma, hwythau, yn yfed rhyngddyn nhw lond dwy fil o gwpanau aur o siocled.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

Parc Maesteg oedd enillwyr y gêm rhyngddyn nhw â Thon Pentre.

Pan welodd ddau rwystr metel uwch ei ben sylweddolodd pe bai ef yn ymestyn ei gorff rhyngddyn nhw buasai'n gallu bod yn `bont' y gallai pobl gropian drosti i ddiogelwch.

Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech.

Fodd bynnag, er y byddai'r wybodaeth yma yn eich helpu i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael, dydi o ddim yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus rhyngddyn nhw.

Yr un yw'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw o hyd.

"Mi arhoswn i glywed y sgwrs rhyngddyn nhw." Clywsom Matthew Owen yn dod i mewn ar ei hyll i'r neuadd, a Rees yn gofyn yn dawel iddo, "Chwilio am Aled yr ydach chi.

Gwyddent taw Jonathan oedd yr unig ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a'r byd ar ei newydd wedd a gwyddent hefyd fod y cyfarfod rhyngddo ef a Mathew yn mynd i fod yn un allweddol i gael gafael ar ben-llinyn yr holl ddryswch.

Doedd y rhan fwyaf o'r Palestiniaid ddim wedi derbyn mygydau nwy gan yr awdurdodau, ac un masg oedd gan Siwsan a'i theulu rhyngddyn nhw.

Mae o a Steve, tad Jasmin fy ffrind gorau i, wedi prynu milgi rhyngddyn nhw a Dad sy'n mynd â fo am dro bob bore.

Yr argraff gynta' yw fod tebygrwydd mawr rhyngddyn nhw i gyd cyn belled ag y mae naws y yd y maen nhw'n ei ddarlunio yn y cwestiwn.

'Roedd gennyn nhw gyfrinach rhyngddyn nhw.

Nôl i'w seddau, a'r sach rhyngddyn nhw unwaith yn rhagor.

Roedd y pentref yn rhanedig, rhyngddyn 'nhw' a 'ni', ond cydunent i gyd yn eu parch tuag at yr hen ŵr.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Mae o'n cydio yn Armin a Chalfin ac yn cerdded ar flaen ellyn rhyngddyn-nhw.' Dywedir rhywbeth tebyg am William Roberts: ''Does gan William Roberts ddim amcan am ddiwinyddiaeth gyfundrefnol a 'dydy o'n malio dim botwm corn am resymeg na chysondeb y Ffydd.

Rwyt yn penderfynu peidio â dweud dim - eu gêm hwy ydyw, felly rhyngddyn nhw a'u busnes.

Cyfartal, 1 - 1, oedd hi rhyngddyn nhw â Lyon yn Highbury.

Chafwyd dim un gôl yn y gêm rhyngddyn nhw â Valencia.