Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhywrai

rhywrai

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Mae'n siŵr bellach fod rhywrai o'r darllenwyr wedi ail gynhyrchu darluniau yn llygad eu meddwl o'r mawnogydd welsant wrth deithio tros ucheldiroedd, ac yn îs i lawr o ran hynny hefyd, digon yng Nghymru heb sôn am rannau eraill o Brydain, ond rhaid sylweddoli nad yw pob math yn addas.

Fel ym mhob maes arall, mae gwaed newydd yn gwbl hanfodol i barhad y sector annibynnol, ac mae'n briodol iawn fod rhywrai o bryd i'w gilydd yn herio hen werthoedd ac yn amau dilysrwydd hen safonau.

Byddai rhywrai yn eu dal, os nad yn wir yn eu magu, ac yn nodi eu clustiau yn union fel y gwneir gyda defaid.

Nid yw meistrolaeth y plentyn ifanc ar gonfensiynau'r iaith lafar yn tyfu am fod rhywrai yn ei gymuned yn penderfynu rhoi hyfforddiant penodol iddo ar ddefnydd priodol o ansoddeiriau neu ffurfiau amherffaith y ferf.

Pe byddai'r nwydd newydd o werth masnachol mae'n siŵr y bydd rhywrai yn chwilio am ddull i'w addasu.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Ymhen ysbaid, daeth rhywrai i fyny'r grisiau dan sgwrsio, clywais fy enw, ond dyna'r cwbl a ddeallais; dau athro ifanc oedd yno.

A oes rhywrai'n cofio amdano ar ddechrau'i yrfa fel ysgolfeistr yn pallu newid sieciau'i gyflog am nad oedd yn teimlo'i fod wedi'i hennill yn llawn?

Bu llawer o fân siarad, cyhuddo a bygwth ar ran y grwgnachwyr eisteddfodol, ac aeth rhywrai mor bell â chyhoeddi cân enllibus yn Tarian y Gweithiwr a'i galw'n 'Gân y Cenders'.

Ond y noson honno, â'r plismyn wedi anobeithio cael hyd i'r hofrennydd coll, y dringwyr wedi rhoi'r gorau i chwilio amdano a phawb wedi dychwelyd i'w cartref yn ddigalon, yr oedd rhywrai yn chwerthin yn braf am eu pennau.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

A oes rhywrai'n cofio amdano mewn dosbarth nos ym Mhreselau ac yntau wedi'i wlychu at ei groen, yn darlithio yn ei drowsus (a'i grys yn sychu ar wresogydd)?

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?

I'r dwyrain y bu'n syllu gan ddyheu am weld rhywrai yn marchogaeth dros y twyn o Gwm Taf.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Does ond gobeithio y bydd rhywrai wedi trernu ei goffa yn yr Eisteddfod, ac y bydd eisteddfodwyr yn pererindota i weld ei fedd yn Llangamarch.

Mae rhywrai gerllaw yn siarad amdanat ti, ac fe alle fynd mlaen am beth amser, felly paid rhoi cyfle i bobol ddweud pethau cas amdanat ti.

Hwyrach y dywed rhywrai nad yw pob datblygiad yn fendith.

Tra bo hi'n bosibl i gael cwmni%aeth ffrindiau llengar yn y wlad mewn ardal bendant, a chymdeithas i sgwrsio am y pethe, a mwynhau gwir ffrwythau'r awen, gyhyd â hynny y bydd rhywrai'n deall y math o fywyd yr oedd Waldo'n gynrychiolydd mor lew ohono.

Erbyn hynny roedd si ar led fod rhywrai wedi clywed sgrechfeydd ofnadwy yn dod o dŷ Ali tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore y diflannodd Mary.