Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rinwedd

rinwedd

(Y mae'n cymryd arno beidio a son am yr holl rinweddau hyn er mwyn cael mynd ymlaen i son am rinwedd bwysicach fyth, fel y ceir gweld maes o law).

Yn rhyfedd iawn, mae i ginseng hefyd rinwedd gwrthgyferbyniol; mae natur cyffur lliniaru ynddo.

Diau fod aml denant yn methu cysgu gan y llawenydd sydd yn deillio iddo o'r ymwybyddiaeth hon o rinwedd ar ei ran.

dyw cerdd ddim yn dda am ei bod mewn cynghanedd gywir yn unig, dyw'r gynghanedd per se ddim yn cyflenwi cerdd â rhyw rinwedd.

O'r braidd y bydd Eingl-Gymro a brofodd rywfaint o rinwedd y Saesneg fel cyfrwng barddoni byth yn gildio i'r demtasiwn hon i'w ladd ei hun.

Prif rinwedd sancteiddrwydd benywaidd oedd purdeb corfforol.

Pan y mae cyfraniadau o greulonder ac haelfrydedd mor anghyfartal nid rhyfedd i rinwedd fynd yn isel."

Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.