Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rioed

rioed

Theimlis i rioed yn well 'achan.

Ac yn sylweddoli mai darlun o ryw lecyn y mae hi'n 'i weld bob dydd ydi o - yn 'i weld, ond 'rioed wedi edrych arno fo.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Welis i rioed greadur efo cyn lleied o grebwyll gwleidyddol'.

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Wel, 'da chi 'rioed 'di cherddad hi bob cam.' 'Geuthon ni'n dau bas.'

Daetha 'run ohonyn nhw'n agos i'r bib, ac yr oeddwn i ar fin taflu'r cwbl - fuo fi 'rioed yn chwannog i bys, yn wlych nac yn stwns - ond pwy ddigwyddodd basio ond Wil Robaits.

Fe ddywedai gwybodusion y llys wrthych na fu'rioed fawr o gariad rhwng y Brenin Affos ac Ynot.

Er i mi weld Coch y Berllan lawer tro cyn hynny, doeddwn i 'rioed wedi bod mor agos ac yntau yn ei liwiau mwyaf llachar.

Welaist ti 'rioed 'shwn stŵr, 'achan.

'Ia, Dei, un da am gellwair fuoch chi 'rioed.' "Does 'na neb o'r gangen wedi tramgwyddo, gobeithio?' 'Bobl annwyl nac oes.' 'Mae Sioned wedi bod yn brysur, meddai Lleucu fel pe bai'n egluro wrth blentyn.

Y creadur hoffus a phell.' "Welis i 'rioed ddim byd yn bell ynddo fo.' 'Roedd Lleucu'n barod i amddiffyn ei thad-yng- nghyfraith i'r eithaf, ac 'roedd Sioned yn falch o'i chlywed yn gwneud hynny.

Welais i 'rioed mohonot ti ar hast i fynd i wers o'r blaen 'Mynd i weld Dai Togs ydw i, ynglŷn â'r gêm rygbi 'na

Yn naturiol chefais i rioed ddim arlliw o gefnogaeth gan Mam wedi iddi ddeall o ddifri fy mod am fynd i'r mor ac ar ol gadael yr ysgol yn bymtheg oed euthum i weithio yn y Post yn cario teligramau a negeseuon, ond fy nod o hyd oedd cael lle ar long.

Y noson waethaf imi ei threulio 'rioed !" Dywedodd wrthyf am fynd i chwilio am y morwr ar unwaith iddo gael gair ag ef, ac wedi imi ddod o hyd iddo dychwelodd gyda mi.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

dacia, i be' oedd eisio i ti ddwad i'r lle 'ma 'rioed?

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

''Da chi'n siwr, William Huws, nag ydi'r bitsh hwch 'na ddim yn baeddu'r sêt gynnoch chi?' 'Un o'r hychod glana' fuo acw fawr 'rioed.

Yn y Stiwt ges i'r ymdeimlad gynta 'rioed o fod mewn 'Theatr' go iawn.

oedd y chwaraewr ieuenga rioed i chwarae yn y llinell flaen i Gymru a'r ail ieuenga i chwarae o gwbl i Gymru ar ôl John Charles.

Dwi rioed wedi gwarbacio yn fy mywyd - yn rhy hoff o wely cyfforddus felly mae'r daith yma wedi bod yn sialens newydd i mi.

(Ond ni weithiodd y washar rioed yn iawn ar y tap ym mhenglog Gruff neu mi fydda fo'n gwneud mwy na dim ond cwyno am hanner awr wedi dau y bore fod y papura bach arian yn pigo'i hen benôl o).

Fues i rioed yn hapusach, ac i Vatilan mae'r diolch am bob dim...'

'Ches i rioed gi gan Miriam, er i mi grefu arni am un.

Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.

Ond allai ddim peidio a meddwl fod y brotest betrol ddiweddaraf 'ma yn un o'r syniadau hurtaf 'rioed.

"Welis i 'rioed monyn nhw cyn waethed â heno.

Un ffeind fel 'na ydyw Laura Elin wedi bod 'rioed.

Weles i 'rioed mor anlwcus fuoch chi.

Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.

'Doeddwn i 'rioed wedi amgyffred y fath beth.

Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.

"Rois i gweir i neb, 'rioed." "Fydd dim eisio i ti gwffio," meddai Capten.

Felly ma' hi 'di mynd yno 'rioed.' Yna, mentrodd flewyn o wamalrwydd.

Y peth tebyca welsoch chi rioed i Huws y Bobi yn sefyll yng nghefen capel adeg steddfod.

Fedri di ddim câl dy gacan a'i byta hi þ ond fedraist ti rioed wynebu'r gwirionadd hwnnw naddo?" A chyn i mi gael cyfle i gydnabod fy ngwendid byrlymodd ymlaen.

Am ein bod ni'n genedl fach, mae'n wir, ond hefyd am fod cymaint o gystadlu wedi bod yn ein gwythienna' ni 'rioed fel bod beirniadu bellach yn nhoriad ein bogail ni.

Yng ngeiriau'r gân, All I want is a room somewhere gyda theli wedi ei thiwnio i un o'r ffilmiau gorau rioed.

Roeddwn i yn un o aelode hyna'r garfan ac eto down i 'rioed wedi chwarae ar yr un maes â Mike England, er fy mod wedi gwybod amdano fel un o amddiffynwyr gore'r wlad yn ei ddydd.

Roedd y fuwch yn y beudy yn grwn fel eliffant ac ar ben ei hamsar ers pythefnos ac roedd o wedi gweld mwy ar honno yn y pythefnos dwyth a naga welodd ar ei wraig 'rioed!