Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

robaitsh

robaitsh

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Fe berthyn i'r gwladwr pur y ddawn annaearol i fod yn yr union le pan fydd pobl ddieithr yn cyrraedd, ac 'roedd Elis Robaitsh, Tŷ Cam, wedi ei fendithio'n helaeth â'r ddawn hon.

mi roith Pero a finna wth i chi." Rhoddodd Elis Robaitsh holl rym ei bymtheg stôn y tu ôl i'r car a dechreuodd hwnnw dishian a thagu yn ffyrnig.

"Ma hi'n lyb ofnatsan," meddai Elis Robaitsh yn ddigynnwrf.

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

"Y...nid chi 'dy'r dyn diarth sydd wedi prynu'r Nefoedd 'ma?" "Ia...gwaetha'r modd." "Falch ofnadwy o'ch cyfarfod chi," a gwthiodd Elis Robaitsh ei law fawr drwy ffenestr y car i J.R gael ei hysgwyd hi.

Gydag un ruad llamodd y Mercedes o'i gaethiwed a disgynnodd Elis Robaitsh yn glwt i'r pwll llaid.