Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

roeddech

roeddech

"Dweud roeddech chi ei bod yn ddiwrnod mwll." Llaciodd ei dei a datododd fotwm uchaf ei grys.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

Mae'n rhaid imi'ch llongyfarch, Marged, am feddwl chwim yn gwneud esgus dros fod yn ei dŷ, ond roeddwn i wedi eich clywed yn blaen yn son am y sachaid bwyd, ac yn gwybod mai wedi dod yno i chwilio roeddech chi." Gwridodd Marged at fon ei gwallt.

"Roeddech wedi gadael chwarter o'r cyfan i'w brawd, Miss Jones.' 'Dim ots am hynny, Miss Roberts.

O ystyried pethau fel yna, roeddech chi'n sylweddoli wedyn eich bod chi yn un o'r llefydd mwya' peryglus ar y ddaear.

Os oeddech chi'n cael eich stopio, roeddech chi'n gallu dangos y pass a'r ddamcaniaeth wedyn oedd y byddai hynny'n eich cadw chi rhag cael eich herwgipio.

Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.

"Wel, ewch ymlaen â'ch cwrs fel roeddech chi wedi ei feddwl.

Roedd yna bentref o'r enw Yr Adfa rhyw bedair milltir o Manafon, a thu draw i fanno roeddech chi'n teimlo eich bod chi yn y Waendir, a'r ychydig bobl fasa chi'n cwrdd a nhw yn Gymry Cymraeg.

O sefyll o flaen hwnnw'n wysg eich ochr roeddech chi'n diflannu'n gyfan gwbl, bron.

Roeddech chi'n dweud rwan eich bod chi'n rhamantydd, ydi hi'n bosibl mai rhamantu am gefn gwlad ydych chi wrth ddweud eu bod nhw'n llunio englynion ac yn y blaen?

Yn wir roedd o mor denau roeddech chi'n gallu cyfrif ei asennau o ac er ei bod hi wedi tantro gymaint yn erbyn ei gael o, roedd gan Mam biti drosto.

Roeddech chi'n chwilio am helynt.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Mewn ymgais i guddio'i theimlad, meddai, "Eto i gyd, roeddech chi braidd yn rhy arw...neithiwr...doedd dim angen...doedd gennych chi ddim hawl..." "Wnes i mo'ch brifo chi," meddai, a'i lygaid yn tywyllu.