Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

roeddent

roeddent

Gwaetha'r modd, ni roddid ystyriaeth ofalus i fesurau diogelwch ar y llongau, ac roeddent yn cael eu gorlwytho'n ddychrynllyd yn aml.

Roeddent am dorri i ffwrdd oddi wrth y rhwystredigaethau a gysylltent â'r ddelwedd wleidyddol statig honno.

Ond 'roeddent wedi newid - cymerwyd lle'r coed gan fwynau lliw.

'Roeddent yn rhad fel baw, deunaw oedd y sach a'r llyfrau!' Ond ni fedrai yr un o'r pâr hapus air ar lyfr Cymraeg, heb sôn am lyfr Sanscrit.

Roeddent yn arogleuo mor llethol ag alcohol yn berwi dan flanced.

Roeddent yn atgof poenus am y Forfudd ifanc, yn dannod iddi oruchafiaeth amser, yn dannod iddi dreigl y blynyddoedd, a hithau, yn ôl pob golwg, wedi parhau mor eisteddol wrth ei thro%ell erioed.

'Roeddent hefyd am nodi os oedd camerau gyda ni.

Roeddent yn gallu ennill cyflog da, i fyny i chwe' phunt yr wythnos.

Roedd ei llygaid yn llwydlas fel llechi, a phan edrychent arnaf roeddent yn gwbl ddi-fynegiant bron.

Mi fyddai'n nosi cyn hir; tir anhysbys oedd llwybr y camelod ac roedd y petrol ar fin cyrraedd pwynt dim dychwelyd Roeddent eisoes wedi treiddio ymhellach i'r anialwch nag y gwnaeth neb mewn modur o'r blaen.

Roedd teulu o Birmingham wedi bod ar wyliau yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi, ac wrth gwrs, roeddent wedi gyrru ar draws Sir Drefaldwyn er mwyn cyrraedd Sir Aberteifi, a'r cyfan ar diriogaeth Heddlu Dyfed-Powys.

Ond 'roeddent yn cael eu cyfyngu gan fychander y 'Pastoral Fund'.

Cyn pen dim, roeddent â'u pennau ynddo, Darllenodd Jni yn uchel, 'Swynion ar gyfer tyfu cynffonne gwahanol anifeiliaid ac adar.'

Roeddent i gyd yn clafychu ac nid oedd gan Herriot yr un syniad beth oedd yn bod.

'Roeddent am wybod os oeddem yn cario anrhegion i unrhyw un.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Gwyddent am ei ofal a'i waith dros y dref ar hyd y blynyddoedd ac roeddent yn barod i wrando ar ei brofiad a'i ddoethineb.

Ac felly mae'r ddeddf a gafodd ei phasio'n ddiweddar yn cyfyngu'r hawl gyfansoddiadol i loches yn yr Almaen i'r bobl hynny sy'n cyrraedd yn syth o'r wlad lle roeddent mewn perygl.

Erbyn hyn hefyd 'roedd Waldo wedi clywed mai cwbl gyfeiliornus oedd y datganiad a roddodd Mr S iddo am y pwyllgor: 'roeddent hwy wedi pasio i gadw Waldo yng Nghas-mael yn sefydlog ac nid yn unig tan y Tribiwnlys fel y dywedasai Mr S.

Bwriad eu taith oedd cyflawni astudiaeth ddaearyddol o ardal Abertawe a'r cylch, lle roeddent yn lletya.

Gall darluniau fel hyn ddweud llawer wrthym am ffasiynau gwragedd yn y cyfnod hwn ond ni allant ddweud wrthym sut roeddent yn meddwl nac yn teimlo.

(Ni allaf gofio eu henwau) ac roeddent yn eithriadol o lan, ac fe arferent wneud eu bywoliaeth wrth werthu "bara peilliad" neu "muffins", a byddai mynd mawr arnynt yn yr ardal.

Os oedd obsesiynau enwadol yn fynegiant o egni ar y naill law, roeddent hefyd ar y llall yn awgrym o bobl oedd o ddifrif am bethau llai na phwysig.

Oedd ganddo ych anferthol wedi ei ddofi a'i ddysgu fel pan oeddent yn llwyddo i ddal anifail gwyllt yn y goedwig, 'roeddent yn ei rwymo wrth gyrn yr hen "Dic" ac yntau yn eu harwain i lawr at y tŷ.

Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn.