Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ronyn

ronyn

Os mai gloddesta a gwario ydi'ch Nadolig chi, does 'na, a fydd 'na byth ronyn o wirionedd yn yr haeriad bod natur yn gallu dathlu hefyd.

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Roedd hwn yn berfformiad ofnadwy oedd yn sgrechian am ronyn o aeddfedrwydd a safon i gael gwared ar dîm ddylse fod wedi cael coten.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Nid oedd ganddynt ronyn o amynedd tuag at grefydd na'r Eglwys gan fod y naill beth fel y llall yn eu golwg hwy yn gwbl amherthnasol.

Nid oedd gan y Dirprwywyr ronyn o gydymdeimlad.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

Os yw hynny'n wir, nid yw diolch yr Esgob Morgan, na diolch Cymru, ronyn llai iddo, oblegid ef oedd arloeswr y gwaith a da gan un o bennaf ysgolheigion ein hoes ni ei alw yn "Gymro mwyaf ei oes." Un arall o gynorthwywyr yr Esgob Morgan oedd Edmwnd Prys.

Roedd gwylio awyrennau'n ddifyrrwch beunyddiol gartref yn Surrey a theimlodd Carol ronyn o euogrwydd wrth eu twyllo.

Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.

Yr oedd straen y Rhyfel a'i enbydrwydd wedi peri bod y milwyr yn holi cwestiynau dwys ynglŷn â phwrpas bywyd, ond nid oedd hynny wedi eu dwyn ronyn yn nes i'r Eglwys.

Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill.