Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ronynnau

ronynnau

Ym mhob atom mae'r hyn a elwir (yn niffyg gwell gair) yn ronynnau egni.

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Ei werth yw i storio dþr mewn pridd a chompost; nodwedd werthfawr iawn mewn haf fel llynedd neu i rwyddhau natur pridd cleiog, hynny yw, casglu gronynnau mân pridd cleiog at ei gilydd yn ronynnau mwy er mwyn hyrwyddo sychu tir felly ar gyfer ei drin.

'Dyna John,' meddai'r wraig; 'weithiodd o'r un hog o gwmpas y lle yma pan oedd o'n fyw ac mi benderfynais i na chai o ddim segura o hyn ymlaen!' Wrth gwrs, byddai un llwchyn o John yn cynnwys sawl miliwn o ronynnau egni, ac felly nid yw ergyd y stori yn un gwbwl ddiogel!

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.