Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rowndiau

rowndiau

Patrick Kluivert sgoriodd bedair o'r goliau - record yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop - a Marc Overmars gafodd ddwy arall.

Mae Jamaica yn whare'n aml a maen nhw wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y gorffennol, meddai John.

Voltchkov, o Belarus, yw'r dyn cynta ers John McEnroe yn 1977 i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ar ôl chwarae yn y rowndiau rhagbrofol.

Chwaraeir y gynta o rowndiau cyn-derfynol Pencampwriaeth Euro 2000 - sef honno rhwng Ffrainc a Portiwgal - yn Rotterdam heno.

Fe alle fod yn waeth! Mi gollodd tîm pêl-droed Guam 16 - 0 yn Tajikistan yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ddoe.

Cawsom gynnwrf rowndiau cyn-derfynol a therfynol y gystadleuaeth Choir of the Year yn ystod penwythnos yr Wöyl.

A bydd De Korea ynghyd â Siapan yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd mewn dwy flynedd.

Methodd 75 o chwaraewyr orffen eu rowndiau oherwydd niwl - Nick Faldo yn un ohonyn nhw.

Treuliodd Mos brynhawn difyr yn ei fflat yn edrych ar un o rowndiau cynderfynol rygbi'r gynghrair.

Ar ôl colli yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd mae gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol wedi pylu, Ond nid yw Ryan Giggs wedi anobeithio'n llwyr.

Yn ogystal â'r darllediadau ar BBC2, Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales bydd y sianel ddigidol BBC Knowledge yn darlledu pob un o'r rowndiau a bydd y safle www.bbc.co.uk/cardiffsinger yn darlledu'r rhaglenni yn fyw.

Bydd Vladimir Voltchkov o Belarus, a ddaeth drwyddo o'r rowndiau rhagbrofol, yn wynebu Byron Black ar Almaenwr sydd ai fam o Birmingham, Alexander Popp, yn chwarae Pat Rafter o Awstralia.

Mae llywydd FIFA Sepp Blatter wedi dweud mai Affrica fydd yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y flwyddyn 2010.

Y tro hwnnw 'roedd Neuadd Dewi Sant ymhell o fod yn llawn ar gyfer y rowndiau cyntaf, er ei bod dan ei sang erbyn y noson olaf.

Fe fethon nhw ag ennill un gêm yn rowndiau agoriadol y gystadleuaeth am y tro cynta ers 1986.

Rhaid i dîm Mark Hughes ennill y gêm ragbrofol hon yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd, os oes unrhyw obaith iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol.

Mae adroddiadau bod Brazil ar fin tynnun ôl eu cais i gynnal rowndiau terfynol Cwpan Y Byd 2006 ac y byddant yn cefnogi cais De Affrica yn lle hynny.

Efallai mae gwendid sylfaenol y cynnig yw diffyg adnoddau Gogledd Iwerddon ar angen i berswadio UEFA i ganiatau pedair gwlad i fod yn y rowndiau terfynol fel timau cartref.

Bydd tîm saith bob ochr Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol cwpan y byd yn yr Ariannin fis Ionawr ar ôl ennill cystadleuaeth Heidleberg ddoe.

Mae Belarus yn chwilio am reolwr newydd lai na thri mis cyn eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Cymru.

Ar ôl llwyddiant rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae gobaith y gellir denu rhagor o brif rowndiau terfynol pêl-droed iddi.

Mae tîm pêl-droed Cymru'n wynebu wythnos hollbwysig yn eu hymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

O gwmpas hanner dydd bydd FIFA yn cyhoeddi ym mhle y cynhelir rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006.

Bydd Norwy yn yr un grwp â Chymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae ymdrech ar y cyd ar droed gan Gymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban ac Iwerddon i gynnig cynnal rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2008.

Mae rowndiau yr Eisteddfod Roc yn prysur ddod i ben.

Darlledir pob un o'r rowndiau ar BBC2 y noson wedi'r gystadleuaeth ag eithrio'r rownd derfynol a ddarlledir yn fyw ar nos Sadwrn.

Yn awr fe gyfyngir yn llym ar y nifer o wledydd Affricanaidd a geir yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.