Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rugl

rugl

Gellid dadlau mai dyma'r cyfnod mwyaf allweddol ac effeithiol o ran gosod sylfeini a fydd yn sicrhau fod plant yn gwbl rugl ddwyieithog ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol eu hoes.

Os ydym am sicrhau fod pobl ifanc yn gwbl rugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mae'n amlwg fod yn rhaid darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog iddynt.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.