Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwla

rwla

Ond roedd ei feddwl o yn rwla arall.

Mae na gyfres deledu lwyddiannus yn seiliedig ar Wlad y Rwla.

'Welwch chi'r sglyfath lle yn rwla?' ebe Ifan, wedyn, yn bigog.

A 'drychwch welwch chi'r Cerrig Gleision cythril hwnnw yn rwla.' Craffodd William Huws, a'r hwch (ond am resymau gwahanol) drwy ffenestr y bus ac i'r gwyll.

'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.

Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen.