Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwyd

rwyd

Cafodd y tîm o Sbaen ddihangfa chydig cyn y diwedd, diolch i Wes Brown yn rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun.

Dechreuodd pethau'n wael i'r Drenewydd wrth i Mark Williams roi'r bêl i'w rwyd ei hun o groesiad Glyndwr Hughes wedi ugain munud.

Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Yr oedd yn bosib prynu math o rwyd fetel tebyg i waelod gogor i'w gosod dros y ffenest i gadw'r cerrig i ffwrdd gyda sgwaryn agored o flaen sedd y dreifar i hwnnw gael gweld lle mae'n mynd.

Fe'i cyfarchodd wedyn trwy chwifio'i rwyd fân uwch ei ben.

Ond gwelsom fod y coleg yn disgleirio ac yn cynnig hyfforddiant o'r safon uchaf mewn campau fel rygbi, pêl-fasged, pêl-rwyd, athletau, criced.

Ni fydd gem bel-rwyd gan mai cangen Caernarfon yn unig oedd wedi rhoi eu henwau.