Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwygo

rwygo

Nid oedd wedi rhagweld faint o greigiau fyddai'n disgyn: disgynnodd un ohonyn nhw ar ei fraich, gan rwygo ei lawes.

Cwyd y ddau dwr ar y penrhynau i'n hatgoffa fod creigiau fel dannedd draig yn barod i rwygo llongau'n grybibion.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Dim ond eiliad y cymerodd iddi gau'r drws, ond yn yr eiliad honno roedd hi wedi gweld Edward Morgan yn gorwedd ar y llawr a rhan uchaf ei gorff wedi ei rwygo'n ddarnau.