Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwystro

rwystro

Naw i dri ar yr egwyl, a Gareth Edwards wedi cael ei rwystro rhag croesi am gais gan amddiffyn effeithiol rheng ôl Llanelli.

Mae meddygaeth lysieuol yn ei ddefnyddio i drin anhwylderau'r iau, y clefyd melyn, y gymalwst, cryd cymalau, rhai anhwylderau'r arennau ac i rwystro neu ddileu cerrig y bustl.

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Beth oedd i rwystro llu o rai tebyg iddo yntau, a digon o fenter busnes neu syniadau pensaerniol yn eu pennau, neu lygad am olygfa dda, rhag cael eu tanio i weithredu 'run fath, nes i bob hafod a llety o Gaerfai i Gilgerran gael ei drawsnewid?

Yn anffodus, er imi geisio tynnu sylw'r awdurdodau priodol at bwysigrwydd Tre'r Ceirij nid oes yr un arwydd i'w weld hyd heddiw i egluro gwerth y pentref i'r genedl nac ychwaith gynnig wedi'i wneud i rwystro'r fandaliaeth o daflu rhai o'r cerrig o'r amddiffynfa dros y dibyn!

." Gafaelais yn dynnach yn ei fraich i geisio'i rwystro rhag ailddechrau cwyno'n uchel.

I oresgyn y broblem, bu gweithwyr maes yn gosod oel llwynogod o gwmpas safleoedd nythu, i rwystro mamaliaid rheibus, ac mae'r canlyniadau hyn yma'n galonogol.

Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.

Methodd dy dad ddeall dy serch di a John ond bu'n dda i rwystro Nat.

Atgoffwch yr aelodau nad yw presenoldeb pobl uniaith Saesneg i rwystro eraill rhag defnyddio'r Gymraeg.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.

Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.

Cefais y drafferth fwyaf i rwystro fy morwynion fy hunan rhag ei arfer.

Er gofid, cytunwyd nad oedd modd yn y byd i'r Cynulliad rwystro'r gyflafan a gafwyd yn nhermau swyddi.

Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro.

Ond roedd hi'n amlwg fod rhywun am ei rwystro - i ba bwrpas arall y daethai'r ddau ddyn ar ei ôl?

Cynlluniwch ffyrdd o rwystro'r wiwer rhag dwyn y bwyd.

''Does dim byd i'w rwystro fo alw yma amdanat ti, os hoffi di.'

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

Byddai'r llestri a ddefnyddid i wneud menyn yn siwr o gynnwys rhywfaint o'r pren gan fod gwrachod yn enwog am eu gallu i rwystro corddi.

Uwchben yr oedd cannoedd o genedlaetholwyr a geisiodd rwystro gorymdaith ceir Lerpwl rhag cyrraedd y ffordd a redai dros ben yr argae.

Ni symudodd yr Indiad, ond safai fel pe bai am rwystro Rowlands rhag mynd ymhellach.

Ni chafodd fynd i mewn i'r orsaf, gan i'r Cork Express rwystro'r ffordd.

Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu.

Yn gynta am fod Cymru wedi dod i Iwerddon iddo fe gael gweld gêm ryngwladol, ond yn ail roedd am ddiolch i mi am rwystro'r hyn a alwai ef yn esgus pellach i bropaganda'r wasg Seisnig gael ei ddefnyddio yn erbyn ei bobl e.

Er bod afiechyd ac amgylchiadau Rhyfel yn ei rwystro rhag mwynhau'r ysgoloriaeth deithio, ychydig oedd gan Gymru i'w gynnig yn artistig.

Hwnna yw e, ife?' meddai'r crwydryn, a thôn ei lais yn newid, a chyn i Idris gael cyfle i'w rwystro, ysgythrodd am y gadwyn yr oedd yr afal yn hongian wrthi.

Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.

Oni fyddai yno ddŵr glân i rwystro'r afiechydon rhag eu dwyn i ffwrdd o'r fuchedd hon i'r nefol gôr yn gynt na phryd?

i) Llenwch y drorau gwaelod yn gyntaf i rwystro cypyrddau rhag dymchwel.

Roedd am ddiolch yn hytrach bod Cymru wedi llwyddo i rwystro Iwerddon rhag rhannu'r bencampwriaeth â Lloegr.

Mae ychwanegu 'glycerine' i'r toddiannau yma'n ymestyn oes y swigod trwy rwystro'r anweddiad yma.

Dyna'r rheswm, mae'n debyg, paham na fu awdurdodau'r Eglwys yn yr Almaen a'r Eidal fel petaent yn dymuno gwahardd neu rwystro'r cyfieithiadau hyn rhag cael eu dosbarthu ymysg y boblogaeth yn y ddwy wlad.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

Hanes eu hymdrechion hwy i rwystro'r hereticiaid rhag ennill tir sydd yn y llyfr.