Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rydan

rydan

'Rydan ni'n gwmni sy'n gwneud elw.' 'Ydach chi?' Daeth i sefyll yn syth o'i blaen, ei ddwylo yn ei bocedi, ei goesau'n dalsyth.

Rydan ni wedi cael tri Sul mewn tri diwrnod meddai cyfaill wrthyf ar ol oedfa'r nos.

Rydan ni yma yn ceisio rhoi llawer o gefnogaeth i'r aelodau.

WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.

'Rydan ni wedi dwad i'r bae anghywir,' meddai'r capten, a hyder dyn a wyddai ei fod yn iawn fel mêl yn ei lais.

Maen nhw'n broffesiynol eu hagwedd a dydyn nhw'n rhoi dim byd i ffwrdd ac ynan gobeithio dwyn gôl - a rydan ni wedi gweld hyn droeon.

'Rydan ni'n gyfoethog, Siân!' gwaeddodd Tudur toc, wedi anghofio popeth am ginio a'r cerydd fyddai yn eu disgwyl yn y garafân.

Yn anffodus mae Gang Bangor ar wyliau am ryw hyd felly ni fydd yna sengl yn cael ei dewis ar gyfer yr wythnos yma, ond mi rydan ni'n awgrymu eps newydd Topper ac Epitaff i chi ar gyfer yr wythnos yma.

Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'

Mae hi'n egluro o ble rydan ni'n tarddu, a sut y llwyddwyd i greu cymdeithas oedd yn gallu siarad, dadlau a thrafod â hi ei hun.

'Rydan ni'n mynd i'r parc hefyd,' eglurodd.

Rydan ni i gyd wedi mwynhau'r un am y dderwen a'r brwyn yn fawr iawn." "Gad i mi weld yn awr," meddai yntau, gan ddal ei ben yn erbyn ei bastwn.

Dyna rydan ni wedi bod yn anelu amdano ers 'mod i efo'r clwb.

Mae traed yr awdur ar y ddaear ac mae'r diweddglo yn nodi cyfraniadau'r cyfryngau mwy cyfoes i'r Gymru rydan ni'n byw ynddi.

'Rydan ni i gyd wedi clywed am Hollywood, am y criw syrffio, am y daeargrynfeydd ac am y lladron.

"Rydan ni'n mynd i fod yng nghanol y chwilio." Yr oedd Rolant wrth ei fodd.

Rydan ni bob amser yn dweud ein bod ni'n mynd yno a byth yn cael cyfle i fynd."

Rydan ni'n falch fod Celtic yn yr het gyda ni, meddai Gwyn Pierce Owen, Llywydd Bangor.

Ond mi rydan ni'n awgrymu y dylie chi wrando ar eps newydd Topper ac Epitaff ac wrth gwrs £5 Heb Newid sydd wedi cael sylw eisioes yn y golofn.

Ac mi rydan ni ynghanol y cyfnod hwnnw jyst cyn i'r dydd oleuo lle mae pob dim afreal yn edrych yn gwbl real a rhesymol.

Rydan ni am frwydro i'r pen.

Fel y dywed Hywel Evans, 'Rydan ni'n rhoi cyfle a cefnogaeth iddyn nhw - help llaw, nid y cotton wool a'r gofal...

Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol.

Rydan ni'n chwilio am 16 o dimau i gymryd rhan.

"Rydan ni i gyd wedi blino, ond mae pawb i helpu cario pethau o'r car," meddai Dad.

"Rydan ni wedi bod yn defnyddio llawer ar adeiladau'r Faenol.

* * * * * STRATEGAETH MARCHNATA Rhai sylwadau:-WS Rydan ni'n marchnata i'r Dwyrain (Amwythig).

'Rydan ni'n teimlo nad yw swyddogion Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi rhoi llawar iawn o gymorth i ni dros y tri mis dwetha.

Newydd orffan byta rydan ni rŵan - mae'u blas nhw yn 'y ngheg i o hyd.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

Rŵan, mae hynny drosodd; rydan ni'n dechrau cofio mor braf yr oedd o." Ni ddywedodd yr un o'r lleill air o'u pennau.

'Eisiau help efo prosiect ysgol rydan ni,' meddai Mair, 'ac mi awgrymodd rhywun y gallai Mr Puw ein helpu.'

Wel, yn syml, 'rydan ni am ehangu.

'Wel, wrth gwrs, rydan ni'n medru gneud popeth.

'Rydan ni wedi chwarae pedair gêm yn ystod yr wyth diwrnod dwetha.

'Gwranda! Dwyt ti ddim yn deall. Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol."

Rydan ni wedi byw efo cysyniad o oes pan oedd papurau Cymraeg yn ddylanwad torfol, oes y Faner ddi-grant, ac oes pan oedd newyddiadurwyr a golygyddion Cymraeg yn baglu ar draws ei gilydd ar Faes Caernarfon.

Rydan ni'n teimlo'r tymor yma 'tasan ni wedi cael chwarae teg basan ni wedi medru gwneud hi.

Wrth glirio llestri brecwast, rydan ni'n meddwl beth i'w wneud ar gyfer amser cinio!

'Mae hi'n anodd, ond rydan ni'n ceisio annog bobl i dorri lawr ar fwyta braster, halen, siwgr, a chymryd mwy o ffibr, ffrwythau a llysiau.

'Rydan ni'n galw ar y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddarparu'r cyllid a'r arbenigedd i ddatblygu safleoedd plentyn-gyfeillgar yn Gymraeg, ' meddai Llew ap Gwent.

Twm sy'n pwyntio at yr Eifl ac yn dweud wrth ei frawd, "o ffor' acw rydan ni wedi cychwyn." Ac ar ddiwedd y nofel mae Owen yn gweld y broses yn fwy cyffredinol wrth edrych i lawr ar ei ardal o ben y mynydd: Yr oedd y tir o gwmpas lle'r eisteddai ef yn gochddu, a gwyddai Owen fod yr holl dir, cyn belled ag y gwelai ei lygaid, felly i gyd - tua chan mlynedd cyn hynny.

Cododd Ibn a cherdded gyda'r capten ar hyd y traeth: 'Rydan ni mewn helbul .

Os 'dan ni'n mynd i dorri rheol yr iaith weledol honno, rydan ni'n ymwybodol o'r rheswm.

'Wyddon ni ddim sut le ydy'r wlad na dim am y gwesty lle rydan ni'n aros.

"Peth digon digysur ydy bod mewn fflat a honno ar ganol ei hailwampio," ebe Emli, "Rhaid i chi ddod atom ni i fwrw'r Sul." "Rydan ni'n byw hefo'n gilydd," meddai wedyn, a throi at Alis a honno'n edrych allan i eangderau'r mor.

"Mae'n iawn i fechgyn gario pethau - - does arna i ddim eisiau gwneud fy nillad yn flêr!" "O, Iona, rydan ni'n dwy'n helpu hefyd, tyrd yn dy flaen," meddai Eira'n flin.

Gyda'r haf bron a dod i ben, yr wythnos yma rydan ni am edrych yn ôl ar yr Wyl ola i ni, fel Gang Bangor, fod yn ymhel a hi.

Rydan ni'n barod.' Safai fy nghyfeillion ar y lan yn ddisgwylgar a llawn anogaeth a chynghorion da.

DT Mae gwir angen Swyddog Teithio i resymoli 'bookings' SC Rydan ni'n cael digon o wybodaeth ymlaen llaw gan gwmniau o Loegr, pam mae'r cwmniau Cymraeg mor ddiffygiol?.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.

Mi 'rydan ni o'ch plaid chi." Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth.

Gwyddai ei fod yn Ffrainc yn rhywle, a mentrodd ofyn eto, Yn lle 'rydan ni?

Gofynnwch i Huw fynd â chi i ryw bost of fis ar y ffordd oddi yma." O'r gora, Dad, er rydan ni'n gwneud yn iawn yn y Cwmwd, cofiwch." "Mi wn i hynny, siwr iawn, ond mi fydd Mam o'i cho os na adawn iddi wybod.