Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ryfeddod

ryfeddod

Gresynu oedd Ms Clwyd, ar ran 'miloedd o Eisteddfodwyr', ein bod wedi ymosod ar Mr Hague, 'blondyn bach del efo gwên ddigon o ryfeddod', rhinweddau gwleidyddol sylfaenol yn yr oes sydd ohoni -- well spotted Hefina.

A Thydi a greodd ryfeddod corff ac ymennydd dyn, gyda'i gelloedd dyfeisgar, curiad cyson y galon a cherddediad bywydol y gwaed, doniau bysedd a threiddgarwch clust a llygad.

Galwodd Mrs Q D Leavis, gwraig y beirniad F R Leavis, sylw at ryfeddod y dosbarth hwn yn Lloegr, ac nid oedd ei ryfeddod yng Nghymru yn llai.

Yr oedd dau goleg y Bedyddwyr (yn Hwlffordd ac ym Mhont-y-pŵl) hefyd wedi rhoi lle rhyngddynt i dri estron ond nid yw hynny'n gymaint o ryfeddod, efallai, ag yn hanes y Methodistiaid oherwydd yr hen gysylltiadau niferus rhwng Bedyddwyr Cymru a Lloegr.

Yn hytrach edrychir gyda rhyw dirionwch rhadlon ar ryfeddod (yn yr ystyr lythrennol) bodolaeth dyn.

Roedd sawl un, wrth gerdded heibio, wedi datgan yn ddistaw bach ei ryfeddod nad âi'r swp gwlân yn ddim llai o un pen y diwrnod i'r llall, er gwaethaf dyfalbarhad yr hen wraig.

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

''Da chi'n gynnas 'nghariad i?' 'Ydw Nyrs, diolch i chi.' 'Tydi o'n beth bach digon o ryfeddod.' 'Ydi, debyg,' atebodd Kate flewyn yn swil.

Dipyn o ryfeddod oedd Llywelyn y llanc penfelyn.

Yr hyn syn rhywfaint o ryfeddod, fodd bynnag, yw nad ofynnodd neb y cwestiwn a ddylid fod wedi agor drysaur stadiwm o gwbl ar y Sul.

Oni fyddai'r goleuadau trydan yn gryn ryfeddod i drigolion y dyddiau gynt?

Darllenais gyda chymysgedd o ryfeddod ac edmygedd am hen gariad Paddy Ashdown yn dweud yr wythnos diwethaf i'r ddau ohonyn nhw garu mewn naw eiliad a hanner.

Ac yna, fel gwawr ddisymwth wedi nos fer Helsinki, y golau'n codi ar y llwyfan, a'r gynulleidfa - o bosib - yn tynnu anadl uchel o ryfeddod.