Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ryfeddol

ryfeddol

Hwyrach y maddeuir imi am awgrymu fod Paul wedi gweld pethau'n glir ryfeddol a'u crynhoi mewn brawddeg fer, "Nid oes na gwryw na benyw canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu%.

Sylw Carole Rosen, Is Lywydd Arlwy Deuluol HBO (Home Box Office), oedd, "Dyma'r wythfed Primetime Emmy i'w hennill gan y bartneriaeth hon rhwng Cymru ac UDA o fewn saith mlynedd - gorchest ryfeddol.

Mae yma i ddangos rhinweddau'r Hwn a'i galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef ei Hun.

I'r Cymry wedi taith o dri mis, mae'n siwr ei bod yn olygfa ryfeddol.

Hynny yw, meddai, roedd yn meddu ar 'y ddawn ryfeddol honno.....

Trefn ryfeddol natur ynte.

"A phe bai unrhyw un ar y rhostir yn ystod yr ychydig funudau hynny, mi allai weld yr olygfa ryfeddol hon a chael cip ar y trysor," meddai'r ych.

Perthynai iddo rhyw ddiniweidrwydd hoffus ryfeddol, a'i gonsern am eraill mor amlwg.

Yr hyn syn wirioneddol ryfeddol, wrth gwrs, yw fod apêl caneuon Edward H gymaint at yr ifanc heddiw ag ydyn nhw at henaduriaid fel fi.

Roedd ganddo'r ddawn ryfeddol i weld a gwerthfawrogi cymeriad, a marwgofion anfarwol yw'r rhai a ysgrifennodd am weinidogion fel Jenkins, Llwyn; Lewis Williams, Cilie a Gwilym Evans, Llandysul.

Personoliaeth gwbl ryfeddol yw'r Arthur hwn.

(Mae ei ysgrif Saesneg ar Digs yn y gyfrol ryfeddol honno College by the Sea yn gofnod hynod.) Rhagluniaeth a'i bwriodd ef ac Idwal Jones at ei gilydd i'r un llety yn y dyddiau hynny.

Gwr byrgoes a boliog ryfeddol oedd y rheithor, un a chanddo wyneb llyfndew, gwritgoch â llygaid gleision yn berwi o ddireidi.

Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr.

Yn hapus ryfeddol cafodd y mudiad ifanc newydd arweinydd a phroffwyd i'w ysbrydoli a'i borthi yn y meddyliwr cymdeithasol praffaf a godwyd yn ein Cymru Gymraeg ni y ganrif hon, sef yr Athro J R Jones.

Ac yng Ngwledydd Cred, drwy'r canrifoedd hir o amser Paul hyd at o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, uniaethwyd mewn ffordd ryfeddol ffawd y Cristion unigol a phwrpas Duw fel yr amlygid ef drwy hanes.

Dichon y byddwch yn cofio'r frawddeg gyfrin ryfeddol.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Ac eto rydym yn byw yng nghanol y chwyldro cyfrifiadurol sy'n rhoi inni wybodaeth ystadegol a dadansoddol ryfeddol.

Buom yn aros yn Siem Reap, y pentref nesaf at yr adfeilion hyn er mwyn inni gael dau ddiwrnod i fynd i weld y deyrnas ryfeddol.

Roedd Lingen yn berffaith fodlon cydnabod gorchest ryfeddol yr ysgol Sul.

Llwyddiant di-amheuol hefyd fu'r Cyflwyniad yn theatr Seilo, Caernarfon o "O Bala i Balaclafa% - hanes bywyd a gwaith y wraig ryfeddol honno, Betsi Cadwaladr, a aeth i weithio fel nyrs yn rhyfel y Crimea.

Ond yng ngeiriau Syr T H Parry Williams, mae Towyn yn un o'r bobl ryfeddol hynny sy'n "myned yn iau wrth fyned yn hŷn".

Cystadleuaeth wan ryfeddol oedd hon, gyda phedwar yn unig yn cystadlu.

Gellid dibynnu arno i gymeryd y gwasanaeth pan fyddai adref, a bu yn deyrngar ryfeddol i'r Cartref ar hyd y blynyddoedd gyda dim ond y gair goreu am y gofalwyr a'r staff.

Sbardunwyd math newydd o gystadleuaeth gan Y Gwir yr Holl Wir, sef sioe gwis gyfreithiol ryfeddol o ysgafn, a oedd yn llwybr newydd i BBC Radio Cymru.

Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.

Canent awdlau ac englynion mawl a marwnad crefftus ryfeddol i'r tywysogion Cymreig, ac ar dro i'r gwŷr mawr a wasanaethai'r tywysogion hynny.

Roedd y cwmni wedi ymdopin llwyddiannus ryfeddol â her fawr llwyfannu Faust.

Ryfeddol! Dyna'r unig air i ddisgrifio'r modd y daeth Wrecsam yn ôl i sgorio pedair gôl yn yr hanner awr ola i guro Luton 4 - 3 yn Kenilworth Road.