Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rywle

rywle

Yna'n cael nerth o rywle a dweud wrthi am ffonio Elsie ei hun (dim perygl iddi hi wneud hynny), ac nad oedd angen fy nghludo pnawn 'fory am fy mod i'n mynd i'r Rhyl yn y bore.

Fe ddaeth gwth o wynt nerthol o rywle ac aeth yr awyr yn dywyll.

'Fe alle fod rywle rhwng saith a deg o Gymry ar y daith,' meddai.

Rhowch y cyrchwr rywle ar y llinell gyntaf ac yna cliciwch ar y botwm canoli fel bo'r pennawd yn symud i ganol y tudalen.

Gyda'r nos yr un dydd, wedi mynd yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swUt; a rhedodd Mr Lewis Thomas, Druggist, ar fy ôl gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn i rywle, cyn dangos ychwaneg o'm digywilydd- dra; ond methodd â fv nghyrraedd.

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Nid oedd pethau'n edrych yn obeithiol o bell ffordd, yn enwedig wrth i lyngeswyr, a oedd yn barod i fyw yn ôl yn y dyddiau cyn dyfodiad yr awyren, anfon dwy long ryfel fawr gyda'u miloedd o forwyr i gael eu chwythu allan o'r dŵr rywle ym mhendraw'r byd.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Ym mhob maes parcio Steddfod neu sioe y mae yna rywun y mae'n rhaid iddyn nhw gael arafu i ofyn i stiward am gael parcio rywle gwahanol i lle mae hwnnw eisiau eu hanfon.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

'Mae Glyn Ewy wedi gwella i rywle ers y tro dwetha wharion ni nhw,' meddai Allan.

I mi roedd cynefin y llwyth rywle y tu hwnt i Groesffordd Llangeler, ond digon annelwig a phrin oedd fy ngwybodaeth am fro fy mabandod a'm hadnabyddiaeth o'm perthnasau a'm gwreiddiau.

Yn Slofacia, dywedir bellach mai cynnyrch o rywle arall yw'r gorau: Boeing, hamburgers, ffilmiau o Hollywood a rheolaeth ddiwylliannol o Baris.

Cyn gynted ag y cyffyrddodd Sandra'r blanced, fe gododd honno ohoni'i hun, a daeth rhyw sgrech fyddarol, annaearol o rywle.

Yna daeth atsain isel certiau trydan rywle ym mhellter y coridor.

Ma nant barablus yn 'i ymyl e, a thylluanod yn pwyllgora yn coed-cefen-tŷ wedi iddi hi nosi, a phe bai popeth yn iawn, fe fyddwn i wedi cynghori Luned i adel y lle a mynd i fyw i rywle arall.

Wedi dianc o'r car, cafodd y bechgyn egni newydd o rywle a dechrau rhedeg yn wyllt i bob cyfeiriad tra llusgai Carol ar eu holau'n wan fel balŵn wythnos wedi'r parti.

Daethpwyd o hyd i babell bifoac Eidalaidd o rywle a chaniatawyd iddo ei chodi ar ben y rhes, ond heb fod yn rhy agos at y babell nesaf.

Gollyngodd y gyrrwr lw arall, un cryfach y tro hwn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a ddeuai gwaredigaeth o rywle.

Mae ganddo dipyn i'w wneud am rai wythnosau ynglŷn â gwerthu'r tŷ yn Lerpwl; yna mae'n dod yma i aros tra bydd yn chwilio am rywle ar y Glannau.

Daeth yr haul o rywle i wenu'n braf wrth i'r ddau gyrraedd Pwll Mawr.

Er ned oedd neb yn hidio amdano, doedd dim amheuaeth na allai'r Trysorlys fynd ymlaen yn hir heb chwistrelliad o arian o rywle.

Ar ben hynny 'roedd dylanwad fy Anghydffurfiaeth Gymreig rywle yng nghefn fy meddwl.

dan ei thraed gwichiai a chleciai'r brigynnau coed, ac o rywle deuai siffrwd tyner annirnad i dorri ar y distawrwydd.

Myn rhai bod ogof a fu'n lloches iddo ynghudd rywle yng Nghraig Irfon a bod rhywun wedi darganfod olion lludw o'i dân wrth gloddio yng ngenau'r ogof.

Diflannodd Aled i rywle, ond arhosodd Snowt yn y cyntedd, gan adael y drws yn gil-agored o'i ol.

'Os na ddaw rhywbeth o rywle - achos mae'r clwb wedi cael lot o gefnogaeth wrth noddwyr fel BT a'r Cyngor - bydd yn rhaid agor y drws i weld a oes rhywun mâs yna sy'n gallu cynnig help.

Cipiodd y meindars gamera'r BBC a'i roi mewn cist car gwyn a oedd wedi ymddangos o rywle.

Ond rywbryd cefnodd ar Gymru, a gwyddwn - drwyr codwr pwysau Myrddin John - ei fod mewn swydd dda rywle yn nwyrain Lloegr.

Roedd pawb wedi clywed am rywle arall yng nghefn gwlad Groeg a ddioddefodd ar draul rhyw fyddin neu'i gilydd rywdro yn ei hanes.

Byddin fawr, flinedig o rywle ymhell, bell i ffwrdd.

A'r môr yna wedyn, yn cropian i fyny'r traeth yn ddireidus i gosi bysedd eich traed a gwneud i chi hel eich paciau i rywle arall.

Mae'n debyg bod ei enw e i lawr ar restr yr undesirables sydd mewn gwersyll rywle tua Wick yn yr Alban.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Hyd yn oed ar ddiwrnod cyffredin gartref yn Surrey e fyddai Guto'n cysgu'n ddi-ffael am ryw ddwyawr cyn cinio, ac ar ben hynny fe fyddai'n siŵr o hepian cysgu bob tro yr âi i rywle yn y car.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

"Y gaeaf hwnnw fe ddechreuodd hi fflyrtan gyda'r cowmon newydd, bachan ifanc digon teidi o'r North 'na rywle bachgen cryf, yn eitha golygus, ac yn weithwr da.

Doeddwn i fowr mwy na chrwt, a rown i eisie rhedeg, rhedeg bant i rywle, yn gweiddi, yn sgrechen.

Dôi sŵn chwyrnu uchel o rywle, a sylweddolodd mai yn yr ystafell y safai ef wrthi y canai'r utgorn.

Yr olygfa yw ystafell athrawon mewn ysgol uwchradd rywle yng ngogledd Cymru ac un o golofna'r achos, ganol y bore, o'i gadair freichia', wrth dynnu ar 'i getyn, yn rhoi ei linyn mesur ar raglenni teledu'r noson flaenorol: 'Wel'ist ti Leila ni neithiwr?' 'Leila?

Ac os byddaf yn hoffi ei wyneb, caiff aros yn yr ystafell wely: os na, rhaid fydd iddo chwilio am rywle arall i roi ei ben i lawr."

Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.

safodd yn syth pan glywodd lais o rywle : sut lais, neu beth a ddwedai, ni wyddai.

Dywedodd Bob Phillips, prif-weithredwr y clwb, mewn cyfarfod stormus yn y ganolfan sglefrio neithiwr fod posibilrwydd y bydd yn rhaid i'r tîm a'r clwb symud yn ei grynswth o Gaerdydd i rywle arall.

ie, llais rhywun, heb os nac oni bai, o gyfeiriad yr afon, a chlywodd ef ddwywaith, deirgwaith rhwng taranu gwyllt y dyfroedd, o rywle y tu isaf i 'r bont.

Rydw i'n gobeithio na fydd arni hi ddim eisiau mynd oddi yma bob dydd i rywle.

Bob dydd Mawrth o hynny ymlaen byddai Miss Lloyd a'i thacsi yn galw heibio i Modryb Lisi i fynd a hi am dro i rywle neu 'i gilydd.

Cais pob un, yn chwerw yn anobaith y dychweledigion diymadferth, symud y bai i rywle.

Doedd dim sôn amdano yn unman, Mi gerddais i lawr y lôn gefn yn galw arno fo gan ddisgwyl ei weld yn dod dros ben y wal o rywle, ond doedd dim golwg ohono fo.