Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sabothol

sabothol

Bu Hugh Evans yn athro yn Ysgol Sabothol Cefn Brith flynyddoedd lawer, ac roedd ynddo gymhwyster eithriadol i'r swydd.

Erys Peniel a Saron yn daith Sabothol.

Gadawodd y cenhadon eu hôl yn ddigamsyniol ar y Casiaid, ac mae olion eu heefengylu brwd i'w canfod o hyd yn yr eglwysi, yr ysgolion, a'r ysbytai, heb sôn am barlyrau lle cenir 'Mae gen'i dipyn o dž bach twt' a lle bwyteir bara brith ac yfed te o lestri sabothol yr olwg.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Er nad yw mam yn Eglwyswraig Sabothol selog, mae hi'n frwd dros y dathliadau mawr a phe byddai'n bwrw cathod a chŵn, ni chollai Gymundeb Bore Sul y Pasg.

Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).