Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

safn

safn

Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.

Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac ddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn.

Yr ail beth a wybu oedd rhwymo cadach am ei safn.

Dechreuodd sgwrio nerth ei freichiau a'r ewyn yn codi'n lafoer gwyn o safn ei frwsh.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Unwaith fe ddaliodd leidr oedd am dorri i mewn i garej y tŷ drwy gau'i safn am ei fraich a dal ei afael nes i dad Rolant ddod i ryddhau'r dyn.