Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

safodd

safodd

Yn y fynwent, fe safodd yn stond a thynnu ei gap o flaen un o'r meini coffa.

Yna safodd am eiliad â golwg feddylgar ar ei wyneb cyn troi yn ei ôl, agor drws y parlwr, rhoi'r golau ymlaen a chamu i'r ystafell.

safodd y pedwar i weld eu llongau 'n taro 'r dŵr ^ r ac yn troi 'n ansicr i nofio i lawr yr afon, ac yna rhedodd y bechgyn nerth eu traed tua 'r fan lle cymerai 'r afon dro llydan, braidd fel pedol ar ymyl y ffordd ac yn ôl wedyn.

Un tro, tra'n teithio mewn bws o Luimneach i Tra/ Li, safodd y bws mewn tref fechan, a dyma'r gyrrwr yn sefyll yn y blaen a chyhoeddi wrth y teithwyr "There will be a short wait of about twenty minutes to wait for a connection", ac allan â fo o'r bws.

Safodd ac edrych i lawr ar y bechgyn, ei lygaid glas yn oer a chaled a'i wefusau'n dynn.

Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb.

Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tŷ gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu.

Aethai yntau "i wynfa'r haul at yr anfarwolion." Pan glywais am farw fy nyweddi, y geiriau a ddaeth i'm meddwl oedd: Safodd yr Iesu ar y lan.

Safodd y ddau fel delwau, yn gwrando'n astud ar bob smic.

Agorodd Cadi glwyd yr ardd, ac yna safodd: yn eistedd ar riniog y drws yr oedd - Smwt.

Safodd pawb ar y tywod.

Creffais ar y dyn o 'mlaen yn mynd arni hi - safodd yn ei hymyl, herciodd y lifft a neidiodd y dyn ddwy lath i'r awyr - ac i fyny a fo!

Safodd am funud yng ngheg y lôn fel un nad oedd yn siŵr pa ffordd a gymerai.

Fe safodd fan'ny yn y drws fel tase fe wedi'i droi'n garreg, a dim gair o'i enau fe.

Yn sydyn safodd yn stond wrth deimlo'i bresenoldeb.

Safodd y dynion yn stond i wylio'r garafa/ n yn ymadael cyn troi i geisio trin clwyf eu cyfaill.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Safodd pawb yn stond, yn edrych ar ei gilydd.

Safodd y tri'n edmygu.

Agorwyd y drws a safodd yr Hindw o'u blaenau wedi gwisgo amdano.

Wedi cyfarchiad neu ddau, safodd wrth ben y bwrdd, ei ddwylo'n ddwfn ym mhocedi'i gôt fawr, ei draed ar led a'i gorff yn siglo o'r naill ochr i'r llall.

Tawelodd y lein a safodd Angharad yn fud.

Agorodd y drws ffrynt, safodd ar garreg y drws ac anadlu'r awyr iach.

Safodd Alun ar ei draed a'i wyneb yn welw a doethineb llawer hŷn na'i oed yn ei eiriau.

Safodd llawer ohonynt yn gadarn dros eu Duw a buont yn gefn mawr i'r Genhadaeth a'r Fyddin yn ddiweddarach.

Safodd A Light on the Hill, gan y cyfarwyddwr enwog Michael Bogdanov, gyfysgwydd âr ddrama ai rhagflaenodd, A Light in the Valley, a enillodd wobr RTS ar gyfer Drama Ranbarthol Orau.

`Edrychwch,' meddai gwraig Gunnar, `mae'r hofrennydd yn dod.' Safodd y teulu i gyd ar y dec gan gymeradwyo.

Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.

'Ie,' meddai Gwyn wedi iddo ddiflannu, 'Ond safodd o ddim wrth Lety Plu.

Diolch yn fawr.' 'Tan fora Llun, Daniel, 'machgan i, tan fora Llun.' Pan gyrhaeddodd Dan waelod y grisiau, safodd yn ansicr, gan na wyddai ymhle i gael gafael yn y dyn bach.

Safodd Gwyn gan agor ei geg a rhwbio ei lygaid yn flinedig.

Safodd Siân a Tudur yn hollol lonydd ac yn hollol fud am funudau hirion gan syllu ar y sach agored yn y twll o'u blaenau.

Cododd y gwres i'w phen eto a safodd ar ei thraed a cheisio gafael yn y silff-ben-tân i'w harbed ei hun.

Safodd gwraig ganol oed o'm blaen gyda golwg bryderus ac ofnus iawn ar ei hwyneb.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

safodd y wraig a debra yn edrych ar ei gilydd heb ddweud gair.

Ond safodd ei fam yn gadarn yn erbyn, a hi a orfu.

Gwelodd beth o'r proffwyd yn Ceiriog: Os cododd Ceiriog y llen lwydoer oddi ar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weld gobeithion Cymru Fydd.

Trodd Abdwl drwyn yr awyren i gyfeiriad y golau hwnnw ac yn fuan safodd yr awyren o flaen cwt mawr.

Ond safodd y dderwen yn gadarn.

Safodd mewn sawl Prawf, gan gynnwys y gêm fythgofiadwy yn Headingley pan Ioriwyd yr Awstraliaid gan orchestion Ian Botham.

Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair 'Golygydd' o'i flaen.

Safodd ar ganol y cyntedd yn gwrando.

Ond ni hidiai am hyn - safodd yn ddewr yng ngþydd pawb a darn mawr o brenuwch ei ben, a'r llythrennau WN wedi'u torri ynddo.

Wedi cyrraedd y llyfrgell safodd Llio wrth y drws yn edrych ar yr hysbysfwrdd a nodai oriau agor yr adeilad.

A'r wraig dlawd a safodd o'r naill ochr yn gwrtais, ac efe a aeth heibio iddi ynghynt, ac yn fwy trwsgwl na'i arfer.

Hwyrach fod dyn yn well na merch ar adeg fel hyn." Agorodd ddrws y caban led y pen, a safodd i un ochr er mwyn i mi gael mynd i mewn.

safodd yn syth pan glywodd lais o rywle : sut lais, neu beth a ddwedai, ni wyddai.

Wedi troi, sylwodd ar Llio yn crynu rhwng y cynfasau a safodd i fyny'n syth.

Safodd Thomas Parry'n ei unfan: 'doedd i wraig ddiarth gerdded i gwt mochyn gefn nos ddim yn beth arferol.

Safodd y tri a'u pwysau ar y llidiart yn gwylio.

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Mi fydda'i 'di colli hwnnw'n munud a fynta'r cynta'r wythnos yma.' Safodd a'i ddwylo ar ei gluniau'n gwylio PC

Safodd Sandra'n ei hunfan pan gyrhaeddodd hi drofa.

Safodd fel petai bod ar ei heistedd rywsut yn sarhad arno.