Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saif

saif

Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.

Gwneir y cyfeiriad hwn yn amlwg iawn yn y darn o'r bedwaredd bennod ar ddeg ar hugain o Eseia a saif fel cyflwyniad i'r testun.

Saif Mari Lewis yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd Calfinaidd, 'pur', fel y'u gwelid ganddo.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglŷn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Fel y saif y Gyfraith ar hyn o bryd, nid oes reidrwydd ar yrrwr i gario'i frwydded yrru yn ei boced.

Saif y pentref yng Nghwm Croesor sy'n ymestyn i ben ucha'r plwyf a'r ffin a phlwyf Ffestiniog.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglyn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Fwy neu lai lle saif yr ysbyty heddiw.

Yn nhai bwyta'r gwestai, saif goruchwylwyr o Sbaen i sicrhau bod y bobl leol yn dysgu eu crefft yn iawn.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Tref a saif ger y fan lle llifa'r afon Honddu i'r afon Wysg yn ne Powys yw Aberhonddu.

Cynhyrchir agweddau, gwerthoedd ac arferion o fewn yr uwch-ffurfiant, ond er fod yr ideoleg hegemonaidd yn gweithredu i integreiddio pawb i mewn i'r system ddominyddol o werthoedd, gan gynhyrchu synnwyr cyffredin sy'n treiddio drwy'r system, eto saif rhai y tu allan i'w dylanwad.

Ond wrth anwybyddu'r cyd-destun gwleidyddol a mynnu bod y gamp o gyrraedd y brig o fewn ein gafael fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn ochri, yn anfwriadol efallai, gyda'r status quo.

Saif y llecyn hwnnw yng ngenau Cwm Trefi, ar ochr chwith y geunant a red heibio.

Comisiynwyd y map mwyaf ohonynt gan Ddþr Cymru a saif ger Llyn Alaw ym Môn.

Y mae yn neheudir Lloegr nifer o drefi a saif ar lan y môr yn wynebu Ewrop.

Dyna pam y cafodd y geiriau hyn eu hysgrifennu yma, lle bu cymaint o blant yn llefain am eu rhieni, a lle heddiw y saif ysbyty mwyaf modern America Ladin, fel carreg fedd i'r gyfundrefn ofnadwy honno.

Yng nghongl isa'r maes gerllaw'r ffordd saif y golofn ar ffurf obelisg ac mae golwg unig a diymgeledd arni.

Wrth gychwyn i fyny'r lôn at y tþ wedyn, ceisiais osgoi gweld y garreg fawr a saif o hyd fel arwydd o'm euogrwydd mewn perthynas â Gruff, ac erbyn hyn o bob methiant ac euogrwydd arall yn fy mywyd.

Ar y dde ymhen hanner milltir saif fferm y Dderw lle'r ymosododd Plant Mat, yr ysbeilwyr adnabyddus o Dregaron, ar ryw ffarnwr ar ei ffordd i'r Sesiwn Fawr, a'i ladd.

Roedd un yn edrych mas drwy ffenest ac yn diawlio Ail Ardalydd Bute y saif ei gofgologn bygddu ar waelod Heol y Santes Fair.

Y mae~r 'Ceiliog Mawr', a saif mor amlwg rhwng adrannau Wellington a Victoria, yn llawer mwy na'r 'Negro'.

Saif Pryderi yn nes at yr hen drefn, a Rhiannon yn nes eto.