Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

samon

samon

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

"Rhaid i ni frysio rhag bod yn hwyr," meddai, "neu mi fydd yr hen Samon yn falch o'n gyrru ni at y sgŵl i gael slap." Gwelodd ar f'wyneb nad oeddwn yn ei ddeall.

"O!" meddai, "am fy mod yn fachgen o'r wyrcws y anfonodd Samon fi at y sgŵl i gael slap.