Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sarhau

sarhau

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

Yn rhy aml, bydd Almaenwyr cyffredin yn troi i edrych y ffordd arall pan fydd estroniaid yn cael eu sarhau a'u difri%o.

Mae'n ffordd ryfedd o dynnu blewyn o drwyn rhywun - ond y ffordd fodern o sarhau rhywun yw gwisgo crys T gydau henw arno.

Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.

Felly, pan deimla fod Brên a'r uchelwyr wedi'i sarhau, ymetyb Efnysien ê chreulondeb erchyll yn erbyn meirch Matholwch, lladd y Gwyddyl sy'n ymguddio yn y sachau croen, llosga ei nai yn fyw, a phair ryfel a ddaw'n agos at ddifetha dwy genedl ac a gymer fywyd ei lysfrawd a'i lyschwaer.

Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?