Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sathru

sathru

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

Mewn ymdrech i geisio'u dal, aeth rhai o'r corachod ar draws eu llwybrau ond cafodd y rheiny eu sathru gan garnau'r ceffylau wrth iddyn nhw garlamu'n anweledig i ffwrdd.

Mae Caerdydd yn siomedig gyda phenderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd eu blaen-asgellwr Dan Baugh am ddeuddeg gêm am sathru yn stod y gêm yn erbyn Abertawe y mis dwetha.

"Peidiwch â sathru'r peth petrol 'na mor gynddeiriog ulw," gwaeddodd.

Does yna ddim llawer o gyflogwyr all sathru fel yna ar fywyd personol eu gweithwyr.

Anodd yw amddiffyn - gydag unrhyw arddeliad - Amrywiaeth Bywydegol ac, ar yn un pryd, sathru ar hawliau amrywiol wareiddiadau dynol.

Efallai bod rhai ohonoch yn digio yn awr: eu helpu nhw fydda'i, meddech chi, dweud wrthynt am gelfyddyd fy ngwlad, dydw i ddim yn sathru ar neb na dim.

Bu bron i'r meindars gael eu sathru dan draed wrth i bawb ohonom ruthro o'r bws a rhedeg fel cathod i gythraul tuag at Iraq.

Hen deipiaduron, cadeiriau gyda'i sbringiau'n dod i'r golwg, gwelyau rhydlyd - roedd y plant yn neidio drostyn nhw, yn sathru arnyn nhw ac yn rhedeg o'u cwmpas.

'Does dim sy'n sicrach na bod dyfodol rhaglen fel Arolwg yn ddiogel hyd ddiwedd y ganrif ac y bydd mawr a mân yn sathru'i gilydd yn eu hymryson i ymddangos arni!

Dyna pam y gellir casglu'r blodau hen niweidio'r planhigyn, ond peidiwch a sathru'r dail gan mai hwy sy'n bwydo'r oddfyn.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Caiff pob adyn chwarae teg yma, heb na dafad na buwch i'w bori a'i sathru a heb unrhyw chwistrelliad angheuol o chwynladdwyr.

Mae'n tynnu oddi ar wedd naturiol y mynydd, ond Duw â wyr faint o greithiau fyddai yma pe gadewid i'r miloedd sathru fel a fynont.

Os bydd i ferch sathru sigâr yn ddamweiniol wrth gerdded ar y stryd bydd yn siŵr o briodi'r dyn cyntaf a ddaw i'w chyfarfod!