Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbri

sbri

Heddiw, roedden nhw wedi cael sbri go iawn ar gostau Sam ac yn barod iawn i'w helpu.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Byddent yn cysgu tan fod y siopau yn agor am ddeg, ac wedyn bant a nhw am hwyl a sbri.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas newydd fod, a chafwyd llond penwythnos o hwyl, sbri a gweithredu.

Er enghraifft, mae gen i gyfeillion sydd wedi troi yn Efengylwyr, sydd wedi penderfynu, er eu bod yn Gymry Cymraeg, fod yn well ganddyn nhw fynychu Capel Saesneg gan fod hwnnw'n Gapel Efengylaidd, yn llawn hwyl a sbri ac ati.

Byddai Modryb Lisi'n difetha pob sbri, a chaniatau y byddai hi'n fodlon dod, ac roedd hynny'n gwestiwn gen i.

Gan ddechrau ar Noswyl Nadolig byddai'r dathlu yn parhau am o leia' dair wythnos gan nad oedd yna lawer o waith i'w wneud ar y ffermydd yn ystod troad y flwyddyn, ac roedd pawb yn gallu canolbwyntio ar gael hwyl a sbri.

Roedd mynd ar eisteddfodau a dramâu - 'Bydden ni'n cwrdda yn y festri a chael llawer iawn o sbri wrth baratoi ar gyfer y rhain.

Ac yr oedd yno le am sbri.