Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seciwlar

seciwlar

Efallai bod llywodraethau hefyd yn rhy obeithiol bod unigolion a chwmni%au a oedd yn ddigon esgeulus ym maes crefydd, rywsut yn mynd i fod yn barod eu cymwynasau seciwlar.

Ceisiai'r santesau eu gorau glas i amddiffyn eu gwyryfdod ac osgoi'r dyletswyddau a ddisgwylid gan ferched yn y gymdeithas seciwlar.

Dyma'r weledigaeth Gristionogol cyn i'r meddwl seciwlar droi'r bydysawd yn "fyd natur" yn bod ac yn datblygu wrth ei ddeddfau mewnol ei hunan, a byd felly lle nad oedd angen Duw.

Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd, a daeth nifer o sefydliadau seciwlar i'n cefn gwlad fel Aelwydydd yr Urdd, y Ffermwyr Ifanc a Merched y Wawr.

Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.

Darganfu nad oedd yn gallu dygymod â'i duedd flaenorol i gondemnio Eglwys Rufain am ei llygredd a gwendidau eraill, a gofynnai iddo'i hun tybed ai yr eglwys honno yn unig oedd yn ddigon cryf i amddiffyn crefydd yn erbyn ymosodiadau'r rhyddfrydwyr seciwlar.